Datganoli 15: Iechyd

Iechyd
Image caption Owain Clarke sy'n gofyn os yw Cymru'n fwy iach o ganlyniad i ddatganoli

Dydi perfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fyth yn bell o'r penawdau - mae'n hawlio hanner cyllideb Llywodraeth Cymru ac mae gwaith y rhai sy'n rheoli a gweithio o fewn y gwasanaeth yn cael ei graffu'n gyson.

Ond sut mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi esblygu ers dod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn 1999? Yn ystod degawd cyntaf datganoli gwelwyd cynnydd yn y gwariant ar iechyd, ond a gafodd yr arian hwnnw ei wario'n ddoeth?

Mae rhai yn dadlau fod cyfle wedi'i golli i ddelio â rhai o'r problemau sylfaenol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd gan fod y tap o arian bellach wedi cael ei droi i ffwrdd. Dyma asesiad ein Gohebydd Iechyd Owain Clarke.

Beth yw hanes y pymtheg mlynedd diwethaf?

Image caption Diwedd y gân yw'r geiniog

Heb amheuaeth mae arian wedi bod yn rhan ganolog o'r stori. Yn ystod degawd cyntaf datganoli mi roedd yr arian yn llifo.

Mi wnaeth penderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynyddu'r gyllideb fel bo'r gwariant ar iechyd yn codi'n nes i'r cyfartaledd Ewropeaidd olygu fod modd i'r llywodraeth newydd yng Nghymru hefyd - ar y dechrau - fuddsoddi'n sylweddol.

Mewn gwirionedd, rhwng 2000 a 2010 mi wnaeth gwariant y pen ar iechyd yng Nghymru ddyblu.

Ond ers yr argyfwng ariannol mae 'na wasgfa enfawr wedi bod- ers yr etholiad diwetha' mae Llywodraeth Cymru wedi torri'r gyllideb iechyd - cam sy'n golygu fod byrddau iechyd wedi'i chael hi'n anodd torri cannoedd o filiynau o bunne o'u cyllidebau.

Yn eu cyllideb y llynedd mi wnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo peth arian ychwanegol ond does 'na ddim amheuaeth y bydd yr esgid yn gwasgu am flynyddoedd i ddod.

Felly i ble'r aeth holl arian y degawd gyntaf?

Cafodd rhagor o ddoctoriaid a nyrsys eu cyflogi ac fe gynyddodd cyflogau. Mi oedd 'na gynnydd o 25% yn nifer staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond mae 'na wahaniaeth barn ynglŷn ag a chafodd yr arian ei wario'n gall.

Yn gyntaf, y Gweinidog Iechyd presennol, Mark Drakeford:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford

A dyma Phil White sy'n aelod o Gyngor Cymreig y BMA:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Phil White, meddyg teulu ac aelod o Gyngor Cymru y BMA

Beth am strategaeth iechyd gyntaf Llywodraeth Cymru?

Yn ystod y cyfnod o dwf - yn 2005 - mi gyhoeddodd y gweinidog iechyd ar y pryd - Dr Brian Gibbons - gynllun ar gyfer y gwasanaeth iechyd - "Cynllun Oes" oedd yr enw. Ymhlith yr addewidion gafodd eu gwireddu oedd cyflwyno presgripsiynau am ddim a sefydlu comisiynydd pobl hŷn.

Ond dydi'r gwasanaeth iechyd ddim yn llwyddo i gwrdd â rhai o'r targedau o safbwynt amseroedd aros i gleifion, amseroedd aros am ambiwlans a mynediad i brofion diagnostig.

Dyma beth sydd gan lefarydd iechyd Plaid Cymru i'w ddweud:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Elin Jones o Blaid Cymru

Ond roedd y ddogfen hefyd yn addo ail siapio neu adrefnu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - canoli rhai gwasanaethau gofal arbenigol, oedd medde nhw wedi'u gwasgaru'n rhy denau a symud mathau eraill o ofal i'r cymunedau.

Rhybuddiwyd pe na bai'r newid yn digwydd yna byddai teuluoedd a chymunedau ar eu colled. Degawd yn ddiweddarach, mae'r newid wedi bod yn gam araf a dadleuol.

Image caption Mae'r cynlluniau ar gyfer canoli gwasanaethau gofal babanod yn y gogledd wedi bod yn rhai dadleuol

Yn ôl is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru Dr Alan Rees, dyw ail drefnu fyth yn beth hawdd i dderbyn:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Alan Rees

Dyw Elin Jones ddim yn credu bod y ddadl dros ganoli gwasanaethau wedi cael ei hennill:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Elin Jones unwaith eto

Un theori yw bod yr arian ar y dechrau wedi rhoi amser i wleidyddion i osgoi gwneud penderfyniadau anodd ar ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd. Mae pethau wedi newid erbyn hyn.

Ond roedd na newid cyfeiriad pendant o gymharu â Lloegr?

Yn bendant. Fe benderfynodd llywodraeth Lafur yng Nghymru wneud penderfyniadau gwahanol i'r llywodraeth Lafur yn San Steffan - yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan Rhodri Morgan ar y pryd fel polisi "dŵr coch clir".

Yn Lloegr mi oedd 'na bwyslais ar ddewis yr unigolyn a chystadleuaeth rhwng sefydliadau iechyd. Ond mi aeth Llywodraeth Cymru ati i gael gwared ar farchnad fewnol y Gwasanaeth Iechyd - gan adlewyrchu penderfyniadau yn yr Alban.

Fe arweiniodd hynny at ffurfio saith bwrdd iechyd mawr yn nwy fil a naw, sy'n gyfrifol am bron a bod holl ofal iechyd yn eu hardaloedd. Ond yn ôl rhai - dydi hi dal ddim yn glir i ba raddau mae'r strwythur wedi bod o fudd i gleifion.

Pa mor ddiogel yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Image caption Fe wnaeth sylwadau Mr Cameron yng nghynhadledd y Ceidwadwyr gythruddo'r Blaid Lafur

Mae safon y gofal o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael sylw mawr yn dilyn nifer o bryderon am ofal gwael.

Mewn araith yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig mi wnaeth y Prif Weinidog David Cameron awgrymu fod problemau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn golygu fod Clawdd Offa yn datblygu i fod yn ffin rhwng byw a marw.

Mi wnaeth Llafur Cymru daro nôl drwy honni fod y Prif Weinidog yn ceisio tynnu sylw oddi ar broblemau mawr yn Lloegr. Rhwng nawr a'r etholiad cyffredinol nesa' ry'n ni'n debygol o weld rhagor o'r dadleuon gwleidyddol yma.

Beth ydi barn y cyhoedd?

Yn union fel y gwleidyddion, cymysg ydi barn y cyhoedd. Mi wnaeth Arolwg Cenedlaethol Cymru'r llywodraeth awgrymu fod dros 90% o bobl Cymru yn hapus a'u profiadau yn ein hysbytai a gyda'u meddygon teulu.

Mae arolwg BBC Cymru yn awgrymu mai llai na chwarter o bobl Cymru sy'n credu fod y gwasanaeth iechyd wedi gwella ers datganoli.

Felly beth yw'r materion mawr i gadw golwg arnyn nhw?

Fe fydd 'na nifer o heriau, rhai yn gyffredin i bob gwasanaeth iechyd - er enghraifft sut i fynd i'r afael â phoblogaeth hŷn, mewn cyfnod pan fo meddyginiaethau yn datblygu'n fwy arbenigol a drud.

Ond er ei bod hi'n gyfnod pan fo'r esgid yn gwasgu, mae'r gweinidog iechyd, ac eraill, yn awgrymu efallai mai dyma'r amser gorau i gael trafodaeth gyhoeddus am yr hyn 'da ni'n disgwyl i'r gwasanaeth iechyd ei gynnig yn yr unfed ganrif ar hugain.

Dyma Phil White eto:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Phil White yn siarad am y dyfodol

Ac fe rown ni'n gair olaf i'r gweinidog iechyd:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Yr Athro Mark Drakeford yn trafod heriau'r dyfodol

Ydi datganoli wedi creu gwell gwasanaeth Iechyd?

Image caption Llawer o bolisiau gwahanol ond safon tebyg o ran iechyd ym mhedair gwlad y DU, yn ôl adroddiad Nuffield

Mae'n dibynnu pwy ydych chi'n holi. Mae rhai yn dadlau fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa llawer cryfach nag oedd yn 1999. Mae eraill yn honni fod 'na cyfleuoedd wedi'u colli yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf.

Ond daeth arolwg annibynnol a dylanwadol diweddar i'r casgliad nad oedd 'na dystiolaeth fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill Prydain.

Mewn gwirionedd mi oedd yn dangos fod perfformiad y gwasanaeth iechyd yn y pedair gwlad ar fesurau pwysig fel cyfraddau marwolaethau y gellid fod wedi'u hosgoi wedi aros rhywbeth yn debyg dros y ddau ddegawd - er gwaetha' gwahaniaethau mawr mewn polisi ers datganoli.

Mae rhai yn gofyn a yw hynny'n golygu'n fod y gwasanaeth iechyd, mewn gwirionedd, yn rhy fawr a chymhleth i unrhyw wleidydd allu ei reoli'n effeithiol.

Straeon perthnasol