Prif Weithredwr Caerdydd, Simon Lim yn ymddiswyddo

Simon Lim Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Prif Weithredwr Clwb Pêl-Droed Caerdydd wedi ymddiswyddo ar ôl 18 mis yn y swydd.

Cafodd Mr Lim ei benodi ym mis Hydref 2012 ar ôl i Alan Whiteley adael y swydd, ac roedd yn y rôl wrth i'r Adar Gleision sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

Cadeirydd y clwb, Mehmet Dalman fydd yn cymryd cyfrifoldebau'r prif weithredwr.

Dywedodd Mr Lim: "Roedd gen i falchder mawr yn y swydd yng Nghaerdydd, ond nawr rwy'n teimlo mai dyma'r amser cywir i symud ymlaen."

Roedd y gŵr o Falaysia yn gyfarwyddwr ariannol yn y clwb cyn dod yn brif weithredwr, swydd y cafodd wrth i berchennog y clwb, Vincent Tan geisio sicrhau mwy o "reolaeth".

Wrth gyhoeddi, dywedodd Caerdydd y byddai Ken Choo yn cymryd drosodd fel rheolwr cyffredinol, gan ddod yn aelod o'r pwyllgor gweithredol gyda'r rheolwr, Ole Gunnar Solskjaer, Mr Dalman ac un o gynrychiolwyr Mr Tan.

Dywedodd Mr Dalman: "Bydd y pwyllgor yn trafod a chytuno penderfyniadau er budd Clwb Pêl-Droed Caerdydd, sydd yn gam positif i'r clwb ei gymryd."