Dirgelwch dyfodol Moffett

David Moffett Image copyright Huw Evans picture agency

Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC), ddyddiau cyn cyfarfod cyffredinol brys yr undeb.

Mae'n ymddangos bod David Moffett wedi cau ei gyfrif Twitter ymysg sïon y bydd yn dychwelyd i Seland Newydd.

Mae cyn brif weithredwr URC a rygbi rhanbarthol yng Nghymru wedi ymgyrchu yn erbyn y bwrdd presennol.

Mewn neges ar ei wefan, mae'n dymuno pob lwc i'r rheiny sy'n mynd i'r cyfarfod ym Mhort Talbot ddydd Sul.

Straeon perthnasol