Samariaid: 'Nifer uchaf o alwadau' ers pum mlynedd

Depressed man
Image caption Roedd un ymhob chwech o alwyr yn son am broblemau ariannol, yn ôl y Samariaid yng Nghymru

Roedd trafferthion ariannol yn broblem allweddol wrth i elusen y Samariaid yng Nghymru weld y nifer uchaf o alwadau ers pum mlynedd.

Fe ddywedodd yr elusen bod ofnau am swyddi sefydlog a thoriadau i fudd-daliadau ymysg problemau'r 160,000 o bobl wnaeth ffonio'u gwirfoddolwyr y llynedd.

Roedd cynnydd o 22% mewn negeseuon testun a 7% yn y nifer o e-byst yn 2013, hefyd.

Er mai dros y ffôn, drwy llythyr neu sgwrs y cafodd y rhan fwya' o gymorth ei roi, mae'r Samariaid yn dweud bod y cynnydd yn y cyfathrebu drwy e-bost neu neges destun yn arwyddocaol.

"'Dy ni angen parhau i esblygu a dod o hyd i ffyrdd newydd i estyn llaw, gan ddal i fod yno i bawb sydd angen ein gwasanaeth," meddai Sarah Stone, cyfarwyddwr gweithredol yr elusen yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.