6.6% yn ddi-waith yng Nghymru

Canolfan waith
Image caption 6.8% oedd cyfradd diwethdra yng Nghymru rhwng Ionawr a Mawrth 2014

Mae gostyngiad o 28,000 wedi bod yn nifer y di-waith yng Nghymru o'i gymharu â'r un pryd y llynedd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd o bobl ddi-waith yng Nghymru yn 6.6% rhwng Chwefror ac Ebrill eleni.

Mae canran y di-waith yn y Deyrnas Unedig hefyd wedi gostwng o 6.8% i 6.6%.

Mae 97,000 yn ddi-waith yng Nghymru. 2,160,000 ydy'r ffigwr yn y Deyrnas Unedig.

Mewn ymateb dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Mae'n dda gweld rhagor o bobl yn ymuno â'r gweithlu ond mae'n bryder enfawr nad yw gweithwyr yn cael codiadau cyflog call."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.