Costau byw yn gur pen i fyfyrwyr

arian parod

Mae un o bob tri o fyfyrwyr prifysgol yng Nghymru wedi ystyried gadael eu cwrs oherwydd fod costau byw yn broblem gynyddol.

Undeb cenedlaethol y myfywyr sy'n dweud hynny ar ôl i bron i 2,000 o bobl ifanc mewn addysg bellach ac addysg uwch lenwi holiadur.

Mae Rhiannon Owen o'r Wyddgrug yn gwybod o brofiad be ydi'r problemau.

"Nes i ddechrau mewn prifysgol yn Essex y llynedd. Mi oedd y costau byw yno yn anhygoel o ddrud - talu £4,500 y flwyddyn am lety.

"Mi nes i gyrraedd y sefyllfa lle roeddwn i'n bwyta i mewn i fy ngorddrafft jest i fwydo fy hun ac yn y diwedd doedd gen i ddim digon o bres i 'neud fy hun deimlo'n saff.

"Yn y diwedd nes i adael achos doeddwn i ddim yn hapus o gwbl.

Bellach mae Rhiannon wedi symud i brifysgol Aberystwyth ac wedi ail-wneud ei blwyddyn gyntaf.

'Dod yma hefo dyled'

"Dwi mewn sefyllfa wahanol i lot o fyfyrwyr sydd wedi dechrau yn Aber yn ffres y flwyddyn yma - a'r holl arian yma yn eu cyfrifon.

"Dw i wedi dod i brifysgol hefo dyled yn barod a dyna'r rheswm dwi'n gweithio rwan er mwyn ceisio cael gwared a'r ddyled honno."

Mae'r ffigyrau swyddogol ar gyfer nifer y myfyrwyr sydd yn gadael prifysgol ar ôl blwyddyn yn dangos mai ychydig dros 5% ydi'r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion Cymreig yn y flwyddyn 2011-2012 - y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael.

Yn ôl Mared Ifan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffioedd dysgu myfyrwyr sydd wedi cael yr holl sylw gwleidyddol yn y gorffennol.

Mae hi'n teimlo fod costau byw erbyn hyn yn fwy o broblem o lawer.

'Pwysau ariannol mawr'

"Dw i'n gwbod fod myfyrwyr yn gadael oherwydd fod 'na bwysau ariannol mawr arnyn nhw. Mae'n anodd iawn i fyfyrwyr fynd yn ôl at eu rhieni nhw er enghraifft i ofyn am fwy a mwy o arian."

Mae gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhestru'r holl grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gynta' a'r myfyrwyr sydd yn parhau mewn prifysgol ar ôl hynny.

Mae'r economegydd Ken Richards - sydd wedi bod yn rhan o ddau ymchwiliad i gyllido addysg uwch ar ran Llywodraeth Cymru - yn teimlo nad oes 'na ddigon o dystiolaeth i gyfiawnhau newid y drefn ar hyn o bryd.

"Ar y cyfan mae plant sy'n dod o deuluoedd difreintiedig yn gallu cael bron i £7,500 y flwyddyn tuag at gynhaliaeth felly dros 30 wythnos yn ystod y flwyddyn dw i ddim yn credu bod hynny'n fach iawn.

"Mae'n siwr bod rhai myfyrwyr yn wynebu caledi ond efallai bod hynny yn rhywbeth i'w wneud â'r ffaith nad oes syniad 'da nw sut i reoli arian.

"Efallai eu bod nhw yn gwario cyfran helaeth o'r arian ddechrau'r tymor a ffendio eu bod nhw mewn caledi ddiwedd y tymor."

Mwy o addysg

Ond yn ôl ymchwil Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mae rhai myfyrwyr yn teimlo nad ydi'r wybodaeth am y gynhaliaeth sydd ar gael yn ddigon clir.

Mae 'na alw hefyd am roi mwy o addysg ariannol i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd fel eu bod nhw'n fwy ymwybodol ynglŷn â sut i drin a thrafod pres.

Mae pwyllgor cyllid y Cynulliad yn cytuno â rhai o bryderon yr undeb. Mae'r aelodau newydd gynnal ymchwiliad i gyllido addysg uwch ac o'r farn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru edrych yn fwy manwl ar ddyledion myfyrwyr a'r goblygiadau tymor hir.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o gyllido addysg uwch o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond.

Mi fydd yn cyflwyno ei argymhellion erbyn mis Medi 2016.

Ond dywed Jacob Ellis ar ran Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod angen gwneud rhywbeth cyn hynny.

"Mae hwn rwan yn argyfwng - yn greisis i'r sector. 'Da ni wedi gweld problemau yn y sector addysg bellach o ran trafndiaieth, 'da ni rwan yn gweld sefyllfa debyg gyda chostau byw. Mae hon yn broblem mae'n rhaid i'r sector ei datrys - mae'n rhaid i'r llywodraeth wneud rhywbeth amdano fo."

Hapusach o lawer

Wrth i fyfyrwyr orffen eu tymor academaidd eleni mae Rhiannon Owen yn hapusach o lawer nag yr oedd hi flwyddyn yn ôl.

"Mae byw yn Pantycelyn yn anyhygoel oherwydd ei bod hi mor rhad.

"Y llynedd mi oeddwn mewn sefyllfa lle doedd gen i ddim yr arian i f'yta ac mi es i ychydig ddyddiau heb f'yta.

"Ond mae Panytcelyn yn llety arlwyo felly dw i'n gwbod hyd yn oed os nad oes gen i ddimau goch i f'enw mi nai ddal f'yta."

Cewch glywed mwy am y stori hon ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12.30 b'nawn dydd Iau.