Gŵyl Golwg yn dychwelyd ym mis Medi

Cafodd noson gomedi Golwg Go Whith ei chynnal y llynedd Image copyright other
Image caption Cafodd noson gomedi Golwg Go Whith ei chynnal y llynedd

Bydd gŵyl a drefnwyd yn wreiddiol i ddathlu chwarter canrif ers sefydlu cylchgrawn Golwg y llynedd yn dychwelyd eleni, mae'r trefnwyr wedi cadarnhau.

Bydd Gŵyl Golwg yn cael ei chynnal yn Llanbedr Pont Steffan ar benwythnos Medi 12 - 14.

Yn ôl Owain Schiavone, prif weithredwr gwefan Golwg360 ac un o drefnwyr yr ŵyl, roedd "llawer iawn o bobl yn galw arnom i'w chynnal yn flynyddol".

Ychwanegodd: "Y teimlad oedd bod angen sefydlu gŵyl gelfyddydol Gymreig fel hyn yn yr ardal, felly roedd rhaid i ni geisio ymateb i hynny a chynnal yr ŵyl unwaith eto eleni.

"Campws y Brifysgol yn Llanbed fydd canolbwynt y gweithgarwch unwaith eto gydag amryw sesiynau sgwrsio, cerddoriaeth a digidol ar ddydd Sul 14eg.

"Rydan ni hefyd yn gobeithio ymestyn yr ŵyl i'r dref eleni hefyd gyda noson banel gomedi 'Golwg Go Whith' a chyngerdd cerddorol arbennig mewn lleoliadau amgen yn Llanbed."

Bydd manylion arlwy Gŵyl Golwg 2014 yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf, ond fe fydd yn cyfuno llenyddiaeth, cerddoriaeth, comedi, sgyrsiau digidol, celf a gweithgareddau plant.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.