Ein Bara Beunyddiol

Dydw i ddim yn sicr bod fy nghinio heddiw yn gwbwl iachus. Wedi'r cyfan dyw brechdan ham bara gwyn a dau ddonut ddim yn bryd y byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, na Jamie Oliver o ran hynny, yn ei argymell!

Nid bod fi'n bwyta felly bob dydd. Dewisais frechdan er mwyn osgoi rhyw gerddoriaeth Samba ddychrynllyd oedd yn cael ei chwarae yng nghantîn y cynulliad. Dathliad pen-blwydd cydweithiwr, dyn sydd â loes am does, oedd yn gyfrifol am y donuts!

Rwy'n esbonio hyn oll er mwyn sicrhau Alun Davies nad rhyw brotest slei yn erbyn ei Strategaeth Fwyd newydd oedd fy nghinio.

Mae'r strategaeth honno wedi eu hanelu at gynyddu maint y sector fwyd yng Nghymru sydd eisoes yn cyfrannu pum pwynt dau biliwn o bunnau i'r economi Cymreig yn flynyddol. Mae honno'n swnio'n swm anferthol - ond nod y llywodraeth yw ei chynyddu'n bellach.

Mae 'na resymau economaidd da dros wneud hynny ond mae 'na ffactor arall sy'n raddol esgyn i fyny'r agenda wleidyddol. Diogelwch y cyflenwad bwyd yw'r ffactor honno - diogelwch yn yr ystyr sicrhau bod bwyd ar gael - nid diogelwch o'i fwyta.

Ymhen ychydig wythnosau fe fydd hi'n drigain mlynedd union ers i ddogni bwyd ddod i ben yn y Deyrnas Unedig. Cig a chaws oedd y pethau olaf i'w dogni ac fe ddaeth y cyfyngiadau ar y rheiny i ben ar Orffennaf y 4ydd, 1954.

Ers hynny mae cenedlaethau wedi eu magu gan gymryd y bwyd ar eu bordydd yn ganiataol ond y gwir amdani yw bod y degawdau diweddar yng ngwledydd y gorllewin yn eithriad yn hanes y ddynolryw. Ansicrwydd a'r posibilrwydd o newyn yw'r norm. Mae digwyddiadau diweddar yn Ewrop Ganol a'r Dwyrain Canol yn fodd i'n hatgoffa o ba mor fregus yw'n gwareiddiad a'n cyflenwad bwyd. Gyda newid hinsawdd pwy sydd i ddweud na fydd prinder bwyd yn broblem i ni eto yn yr ynysoedd hyn?

Y broblem yw nad yw polisïau i gynyddu cyfraniad economaidd y diwydiant bwyd o reidrwydd yn cyd-fynd a'r amcan o ddiogelu'r cyflenwad.

Cymerwch enghraifft. Un ffordd amlwg o gynyddu cyfraniad y diwydiant yw trwy bwysleisio bwydydd lle mae gan Gymru enw da - pethau fel cig coch a chaws. Ond mae Cymru a Phrydain mwy neu lai'n hunan-gynhaliol o safbwynt cig a chynnyrch llaeth yn barod ac mae pethau'n weddol o safbwynt grawnfwydydd.

Pe bai'r hwch yn mynd trwy'r siop fasnach rhyngwladol llysiau a ffrwythau fyddai'r broblem. Mae oddeutu tri chwarter o'r rheiny yn dod o dramor ond lle mae'r gwerth economaidd mewn cymell cynhyrchu'r rheiny ar diroedd ac mewn hinsawdd nad ydynt yn addas iawn ar eu cyfer?

Dyw cydbwyso'r gwahanol ffactorau hyn ddim yn hawdd.

Fe fyddai modd i ni wneud pethau ychydig yn haws i'r Gweinidog pe bawn ni i gyd yn gwastraffu llai o fwyd ac yn magu blas am faip a phannas!