Biennale Fenis: dewis merch am y tro cyntaf

Helen Sear Image copyright Cyngor Celfyddydau

Mae artist benywaidd wedi ei dewis am y tro cyntaf i gynrychioli Cymru yn Arddangosfa Gelf Rhyngwladol Biennale Fenis.

Mae gwaith Helen Sear yn cysylltu ffotograffiaeth a chelfyddyd gain ac mae'n defnyddio lluniau, fideo a cherflunwaith i gyfleu eu syniadau.

Mae'r artist sydd wedi byw yng Nghymru ers 1984 yn hoffi gwthio ffiniau ffotograffiaeth, ac mae ei gwaith yn edrych ar y berthynas rhwng pobl, anifeiliaid a'r byd.

Digwyddiad celf gyfoes sydd yn cael ei gynnal yn yr Eidal bob yn ail flwyddyn yw Arddangosfa Biennale Fenis. Ers 2003 mae cynrychiolydd o Gymru wedi dangos ei gwaith a'r syniad yw dangos y goreuon o'r artistiaid newydd a'r rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y maes ers sawl blwyddyn.

Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru sydd yn comisiynu arlunydd i arddangos ei gwaith.

Eleni mae 65 o genhedloedd yn arddangos eu gwaith, gan gynnwys 10 gwlad newydd sy'n cymryd rhan am y tro cyntaf.

Gwireddu breuddwyd

Yn 1991 y daeth gwaith Helen Sear i amlygrwydd gyntaf wrth arddangos eu lluniau gyda'r British Council ar draws Dwyrain Ewrop ac ardaloedd yn America.

Yn 2004 cafodd ei gwaith ei dewis ar gyfer arddangosfa yn Oriel Hayward Llundain a'r flwyddyn ganlynol yn Valencia.

Dywedodd Helen Sear: "Rwy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1984, ac felly mae'r cyfle i fod yn rhan o Gymru yn Fenis wedi bod yn uchelgais gen i ers sawl blwyddyn.

"Fu erioed cymaint o amrywiaeth a thrafod ar y ddelwedd ffotograffig fel gwaith celf, a gyda thechnolegau digidol newydd yn datblygu'n gynt ac yn gynt, mae presenoldeb corfforol y ddelwedd yn y fantol heddiw yn fwy nag erioed."

Dywedodd David Drake, cyfarwyddwr y cwmni sy'n curadu'r gwaith - Ffotogallery, ei fod yn hapus iawn fod Helen Sear wedi ei dewis ar gyfer Biennale Fenis.

"Mae Ffotogallery wedi cefnogi gwaith Helen Sear ers blynyddoedd, ac wedi gweld sawl datblygiad cyffrous yn ei gwaith," meddai.

"Ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 bydd yr artist yn creu corff newydd hudolus o waith a fydd wedi'i wreiddio yn nhirlun lleol a chyfarwydd Cymru, a hefyd yn ymateb i gyd-destun ehangach Biennale Fenis."

Y llynedd Bedwyr Williams oedd yn cynrychioli Cymru gyda'i waith The Starry Messenger. Ymhlith artistiaid eraill sydd hefyd wedi arddangos y mae Tim Davies a John Cale.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.