Annibyniaeth: Gwion yn yr Alban

Wrth i gyfres Annibyniaeth barhau ar Radio Cymru, mae Gwion Lewis wedi cyrraedd yr Alban i weld drosto ei hun beth yw agwedd pobl y wlad at y refferendwm fydd yn cael ei chynnal yno ym mis Medi.

Mae'r bargyfreithiwr yn ystyried beth yw goblygiadau'r bleidlais i Gymru. Yr wythnos diwethaf mi fuodd o'n edrych ar brofiad dwy wlad yn nwyrain Ewrop ar ôl iddyn nhw sicrhau annibyniaeth. Mae Gwion yn gofyn yn ei flog diweddara' i BBC Cymru Fyw os oes yna wersi y gall y Cymry eu dysgu o brofiad yr Albanwyr:

Image copyright Rondo
Image caption Pa faner fydd yn chwifio ar dyrau castell Caeredin ar ôl y refferendwm?

Mae Caeredin wedi cael ei henwi fwy nag unwaith y ddinas sy'n cynnig y safon byw gorau ym Mhrydain. Wrth i mi eistedd yng nghaffi moethus Valvona & Croller ar lawr uchaf siop Jenners ar Princes Street, gydag adeiladau gosgeiddig yr Hen Dref yn gefndir i mi, mae'n anodd i mi anghytuno. Nid yw'r tramiau newydd sbon sy'n gwibio oddi tanaf yn plesio pawb yma eto, ond efallai nad yw hynny'n syndod o weld nad yw pobl Caeredin, ar y cyfan, yn brysio i unrhyw le. Mae yna fwrlwm yma, ond nid oes rhuthr.

Diwylliant yn ymylol?

Tybed a fydd y bodlonrwydd cyffredinol hwn yn amlygu ei hun yng nghanlyniad y refferendwm fis Medi? Wrth siarad â'r bobl leol, dydw i ddim yn cael yr argraff fod yna fwyafrif yma sydd ar dân i adael y Deyrnas Gyfunol. Cyn dod yma, ro'n i wedi disgwyl y byddai baner genedlaethol yr Alban yn hollbresennol - y byddai'r cenedlaetholwyr yn achub ar bob cyfle i geisio deffro teimladau gwladgarol yn yr Albanwyr sydd rhwng dau feddwl. Ond mae'r ddadl, hyd yma, yn llai emosiynol na hynny.

Yn groes i'r disgwyl, nid dadl ynglŷn â'r "hunaniaeth" Albanaidd, a sut orau i hyrwyddo "diwylliant" yr Alban a'i phobl, sydd i'w chael yma eleni. Rwy'n cael yr argraff bellach y byddai'r Albanwyr yn gweld y pwyslais hwnnw'n rhyfedd gan nad oes teimlad yma fod y diwylliant cynhenid dan fygythiad. Yma, yn wahanol i Gymru, rhywbeth ar ymylon yr hunaniaeth genedlaethol yw'r iaith frodorol: un paragraff yn unig ym maniffesto refferendwm yr SNP sy'n trafod statws yr Aeleg mewn Alban annibynnol.

"Apelio at y pen nid y galon"

Nid yw hynny'n golygu nad yw'r ymdeimlad o falchder cenedlaethol yn ganolog i'r ymgyrch "Ie". Ond hyder yng ngallu'r Albanwyr, fel pobl, i redeg eu stondin eu hunain o leiaf gystal ag unrhyw un o'r tu allan: dyna sydd y tu ôl i'r balchder hwnnw, nid pryder fod "diwylliant" y bobl yn y fantol ac angen ei gryfhau. Nid yw hyd yn oed Ysgrifennydd Diwylliant yr Alban, Fiona Hyslop - un o hoelion wyth yr ymgyrch 'Ie' - yn sôn llawer am ddiwylliant wrth ddadlau ei hachos. Wrth i mi ei chyfweld yn ei swyddfa yn Senedd yr Alban, apelio at y pen yn hytrach na'r galon y mae hi, fel y clywch chi'r wythnos hon.

Image caption A fydd cyfrifoldebau Senedd yr Alban yn ehangu ar ôl mis Medi?

Tybed ai'r rheswm pam nad ydyn ni, eto, yn trafod 'annibyniaeth' yn soffistigedig yng Nghymru yw rhyw duedd i'w weld fel prosiect "diwylliannol" gan leiafrif pitw sy'n obsesiynol ynglŷn ag "achub yr iaith"? Fel y daeth i'r amlwg pan wnes i holi fy nhad fy hun ar gyfer rhaglen gyntaf y gyfres, rhywbeth emosiynol yw "annibyniaeth" i nifer yn y Gymru Gymraeg: ffordd o unioni "cam" y mae'r Cymry Cymraeg, ac yn benodol, yr iaith Gymraeg, wedi ei gael ers canrifoedd o dan "orthrwm" Lloegr.

Ond beth pe tasen ni'n tynnu'r iaith a'r diwylliant o'r darlun? Pe bai 'annibyniaeth' yn cael ei gyflwyno yng Nghymru hefyd nid fel ymateb i "erledigaeth", ond cydnabyddiaeth nad yw gwleidyddion un wlad yn fwy medrus, yn eu hanfod, na gwleidyddion gwlad arall, oni fyddai'n trafodaeth genedlaethol ninnau yn fwy aeddfed?

Annibyniaeth, BBC Radio Cymru - Dydd Llun Mehefin 16 12.30pm Ail-ddarllediad Dydd Sul, Mehefin 22 17.04pm