T20: Morgannwg yn gyfartal

Darren Stevens
Image caption Wnaeth Stevens ddim llwyddo i wneud digon i hawlio'r fuddugoliaeth

Gêm gyfartal oedd hi rhwng Morgannwg a Chaint yn Stadiwm Swalec nos Wener.

Fe gafodd Darren Stevens 71 o rediadau - gwych mewn gêm T20 - ond doedd hynny ddim yn ddigon i gipio buddugolaeth i'r ymwelwyr.

I Forgannwg fe wnaeth Mark Wallace (33), Jim Allenby (54) a Chris Cooke (34) berfformio'n dda.

Ar ddiwedd y gêm roedd Caint ond angen tri rhediad yn y belawd olaf i guro, ond safodd Morgannwg yn gadarn i'w hatal.