Warren Gatland yn ffyddiog y gall Cymru guro De Affrica

Warren Gatland Image copyright Getty Images

Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, yn ffyddiog bod ei dîm yn ddigon da i guro De Affrica yn y prawf cyntaf brynhawn Sadwrn.

Dim ond unwaith mae Cymru wedi curo tîm o hemisffer y de ers i Gatland gymryd yr awenau - yn erbyn Awstralia yn 2008.

Ond mae Gatland yn sicr bod buddugoliaeth yn bosibl yn Durban, gan ddweud: "Os fedrwn ni gystadlu'n gorfforol gyda De Affrica, a bod yn amyneddgar, rwy'n credu bod cyfle da gennym."

Mae Cymru wedi ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad deirgwaith o dan reolaeth Gatland, gan gynnwys y Gamp Lawn ddwywaith.

Ond llywddiant y dyn o Seland Newydd i lywio'r Llewod i fuddugoliaeth yn Awstralia y llynedd arweiniodd at Gatland yn cael ei anrhydeddu gyda'r OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines nos Wener.

Dim ond unwaith erioed y mae Cymru wedi curo'r Springboks - buddugoliaeth o 26-9 yng Nghaerdydd yn 1999.

Mae 13 o garfan y Llewod yn nhîm Cymru ddydd Sadwrn, gyda 10 yn dechrau'r gêm.

Timau

De Affrica: Willie le Roux, Cornal Hendricks, JP Pietersen, Jan Serfontein, Bryan Habana, Morné Steyn, Fourie du Preez; Gurthrö Steenkamp, Bismarck du Plessis, Jannie du Plessis, Bakkies Botha, Victor Matfield (capten), Francois Louw, Willem Alberts, Duane Vermeulen.

Eilyddion: Schalk Brits, Tendai Mtawarira, Coenie Oosthuizen, Lood de Jager, Schalk Burger, Ruan Pienaar, Johan Goosen Lwazi Mvovo.

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Mike Phillips, Gethin Jenkins, Ken Owens, Adam Jones, Luke Charteris, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Aaron Shingler, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Matthew Rees, Paul James, Samson Lee, Ian Evans, Josh Turnbull, Gareth Davies, James Hook, Matthew Morgan.

Dyfarnwr: Romain Poite (Ffrainc)