Galw am ryddhau pysgod i warchod stoc

Salmon leaping in river Image copyright Getty Images
Image caption Ar hyn o bryd mae 20 o afonydd eogiaid yng Nghymru yn cael eu hystryied dan fygythiad

Mae pysgotwyr yn cael eu hannog i ryddhau mwy o eogiaid a brithyll y môr y maen nhw'n eu dal mewn ymgais i warchod niferoedd.

Daeth y cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn adroddiadau bod nifer y pysgod yn afonydd Cymru wedi disgyn y llynedd.

Mae CNC yn gofyn i bysgotwyr rhyddhau o leia' 90% o'r hyn y maen nhw'n ei ddal ar afonydd eogiaid sydd "dan fygythiad".

Bydd hynny'n caniatáu i fwy symud i fyny'r afon er mwyn bwrw grawn a chynhyrchu mwy o bysgod.

Ar hyn o bryd tua 72% o eogiaid a 76% o frithyll y môr sy'n cael eu rhyddhau ar ôl cael eu dal.

Ond mae CNC am weld mwy o eogiaid yn cael eu rhyddhau ar afonydd Ogwr, Tywi, Taf, Cleddau, Rheidol, Nyfer, Dyfi a Seiont.

Mae pryder hefyd am nifer brithyll y môr ger afonydd Llwchwr, Tawe, Rheidol, Ystwyth, Dwyryd, Seiont a Chonwy.

Dywedodd ymgynghorydd pysgodfeydd CNC, Rob Evans: "Mae nifer y pysgod sy'n symud i mewn i nifer o afonydd Cymru yn bryderus o isel y llynedd ac rydym yn gofyn i bysgotwyr gynorthwyo drwy ryddhau mwy o'r hyn y maen nhw'n ei ddal er mwyn hybu'r genhedlaeth nesaf."

Eisoes mae ffigyrau o afonydd Gwy a Thaf, lle mae deddfau lleol yn gorfodi rhyddhau 100% o'r hyn sy'n cael ei ddal, yn awgrymu bod y polisi'n cael effaith bositif ar bysgod.

O ganlyniad mae disgwyl y bydd y ddwy afon allan o'r categori 'dan fygythiad' erbyn 2018.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella'r stoc bysgod.

Yr amcangyfrif yw bod pysgota yn werth tua £150 miliwn i economi Cymru.

Straeon perthnasol