Diwrnod da i Forgannwg

Michael Hogan Image copyright Getty Images
Image caption Michael Hogan

Fe wnaeth Jacques Rudolph sgorio can rhediad cyntaf y tymor i Forgannwg wrth i'r tîm cartref roi eu hunain mewn safle gryf ar ddiwedd ail ddiwrnod y gêm yn erbyn Caint yn y bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y batiwr o Dde Affrica sgorio 103 yn ei bartneriaeth o 181 gyda Mark Wallace (82).

Er iddynt golli tair wiced am 26 rhediad ar ôl te, fe wnaeth Morgannwg orffen y diwrnod ar 337-4 sef mantais o 84.

Fe wnaeth Jim Allenby (59 ) a Chris Cooke (54) gyfrannu at gyfanswm Morgannwg.

Morgannwg v Caint, Pencampwriaeth y Siroedd, Stadiwm Swalec Caerdydd:

Caint (batiad cyntaf) - 253

Morgannwg (batiad cyntaf) - 337-4