Marwolaethau Ponthir: Cyhuddo merch

Mae dynes 20 oed wedi cael ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad lle bu farw cwpl mewn oed.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger neuadd y pentref ar y B4236 Ffordd Caerllion ym mis Tachwedd 2013.

Roedd Joyce Drew, 86 a'r gŵr Denis Drew, hefyd yn 86, yn cerdded pan gafon nhw eu taro gan gar.

Mae'r ddynes wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Bydd hi'n ymddangos gerbron Llys yr Ynadon Cwmbrân ar 2 Gorffennaf.