Ymdrechais ymdrech deg, Gorffenais fy ngyrfa, Cedwais y ffydd.

Dyw mynwent Hen Garmel ddim y lle hawsaf yn y byd i ddod o hyd iddo. Rhaid yw mentro trwy strydoedd cefn Cwmgors i ddod o hyd iddi a does dim arwyddion i gynnig cymorth i chi. Fel mae'n digwydd mae 'na ddwy fynwent yn Hen Garmel - mynwent y capel sy'n brysur ddiflannu o dan ddrain ac ysgall a mynwent y cyngor gerllaw iddi. Mae'r fynwent honno mewn cyflwr pur dda er bod defaid byth a hefyd yn gwthio trwy'r cloddiau i fwyta'r blodau sydd wedi eu gadael ar y beddi.

Mae cerdded trwy fynwent y cyngor yn brofiad pur ddigalon i unrhyw un sy'r poeni am gyflwr y Gymraeg. Mae beddargraffiadau'r 19eg ganrif a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif bron yn ddieithriad yn Gymraeg. Mae ambell i feddargraff Saesneg yn dechrau ymddangos yn y 1960au. Erbyn i chi gyrraedd y ganrif hon Saesneg yw'r iaith ar y rhan fwyaf o'r beddfeini. Os ydych iaith yn colli'r fynwent mae hi mewn trafferth go iawn!

Mae'n debyg bod Carwyn Jones yn gyfarwydd â'r fynwent. Mae llawer o drigolion Brynamman wedi cymryd eu taith olaf ar hyd Heol Hir i Hen Garmel ar draws y blynyddoedd. Fe fydd e'n gyfarwydd hefyd a'r ffaith bod ardal oedd arfer bod yn gadarnle i'r Gymraeg bellach yn un lle mae'r iaith yn fregus. Mae'n ddigon tebyg bod hynny ym malen ei feddwl wrth baratoi ei ddatganiad heddiw ynghylch dyfodol y Gymraeg.

Mae'r rhesymau am ddirywiad y Gymraeg yng Nghwm Tawe a Dyffryn Aman yn gymhleth. Mae diflaniad y diwydiannau trymion a methiant rhai teuluoedd, yn enwedig teuluoedd sydd ag un rhiant yn medru'r Gymraeg, i drosglwyddo'r iaith i'w plant yn ffactorau o bwys.

Dyw'r canfyddiad lleol bod Cymraeg yn ardal yn rhyw fath o fratiaith ddim o gymorth. Wedi'r cyfan sut mae argyhoeddi rhyw un i ddefnyddio'r iaith os ydyn nhw'n gadarn o'r farn "smo'n Gymrâg i'n ddigon da"?

Dyw mewnlifiad o Loegr ddim yn gymaint o hynny o ffactor yn nirywiad yr iaith yng ngorllewin Morgannwg a dwyrain Sir Gâr. Yr hyn sydd yn digwydd yw mynd a dod cwbwl naturiol ac ardaloedd cyfagos - pobol Abertawe'n yn symud lan y cwm a phobol y cwm yn heglu hi am yr arfordir.

Sut mae delio a'r holl ffactorau hyn? Cewch ddarllen presgripsiwn Doctor Carwyn ar 'Cymru Fyw' y prynhawn yma.