Iechyd yn wynebu 'argyfwng ariannol'

Nyrs

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu argyfwng ariannol, yn ôl grŵp ymchwil blaenllaw.

Mewn adroddiad newydd gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn rhybuddio y gallai'r gwasanaeth wynebu "twll du" o £2.5 biliwn yn ei gyllideb erbyn 2025.

Mae'r ffigwr o £2.5 biliwn yn gyfystyr â 43% o'r gyllideb bresennol.

Y prif reswm maen nhw'n ei roi dros eu rhagolwg yw y bydd y galw'n cynyddu tra bydd yr arian sydd ar gael yn aros yn weddol gyson drwy gynyddu'n unol â chwyddiant.

Ond mae'r gyllideb iechyd yng Nghymru wedi gostwng 0.5% y flwyddyn ar gyfartaledd ers 2011 wrth i'r arian sy'n dod dros Glawdd Offa yn ffurf y grant bloc grebachu o ganlyniad i'r wasgfa ariannol.

Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi yn eu cyllideb flwyddyn diwethaf y byddai mwy o arian yn cael ei roi i iechyd a hynny ar draul sectorau eraill fel llywodraeth leol.

'Angen diwygio'

Yn ôl y dadansoddiad mae'r sefyllfa orau posib hyd yn oed yn golygu bwlch ariannol o £1.1 biliwn i'r gwasanaeth iechyd.

Gwraidd y broblem yw bod disgwyl i'r galw am wasanaethau gynyddu 3.3% y flwyddyn o hyn ymlaen, oherwydd fod pobl yn byw yn hŷn ac felly'n fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd cymhleth.

Mae'r gost i drin pobl fel hyn yn uchel yn enwedig wrth ystyried y ffaith fod meddyginiaeth yn faes sy'n mynd yn fwyfwy arbenigol gan arwain at gynnydd yng nghost cyffuriau a moddion.

Dywedodd awdur yr adroddiad Anita Charlesworth: "Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru angen diwygio ac mae angen darganfod ffyrdd i gynyddu cynhyrchiant ac yn bwysicach fyth mynd i'r afael â'r byrdwn o glefyd cronig yng Nghymru."

'Rhaid talu mwy'

Ychwanegodd Ms Charlesworth: "Os yw ariannu'n tyfu'n unol â chwyddiant... rydym yn wynebu her o £2.5 biliwn sydd yn tua 4% y flwyddyn uwchben chwyddiant ac mi fyddai hynny wir yn ddigynsail.

"Mae'n anodd iawn dychmygu sut y gallai Cymru gau'r gap yna heb barhau i rewi tâl gweithwyr iechyd...

"Does dim dianc rhag y ffaith - os ydyn ni eisiau cynnal y safon a'r un ystod o'r gwasanaethau yng Nghymru a gweddill y DU mi fydd yn rhaid i ni'n sicr dalu mwy amdano fe."

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn debygol o ailgynnau'r ddadl ynglyn ag os gall y gwasanaeth iechyd oroesi heb gael ei ddiwygio'n sylweddol ac os oes angen newid ein disgwyliadau ohono yn y tymor hir.

Yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru, mae'r adroddiad yn dangos "na all y GIG yng Nghymru barhau i wneud yr un pethau yn yr un ffordd a mae'n wneud ar hyn o bryd".

'Her ddim yn unigryw'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford bod yr adroddiad yn delio gydag "un o'r heriau y mae pob system iechyd yn y byd yn ei wynebu" sy'n cynnwys "costau uwch, mwy o alw, poblogaeth hŷn a thwf yn y nifer o bobl sy'n dioddef o gyflyrau cronig".

"Ond mae hefyd yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi ymateb i'r rhain drwy ystod o fesurau gan gynnwys gwelliannau mewn effeithlonrwydd a chynhyrchiant, lleihau amser arhosiad pobl yn yr ysbyty a faint o bobl sy'n dod i'r ysbyty," meddai.

Ychwanegodd Mr Drakeford bod cyfleoedd i wneud arbedion yn yr hir dymor drwy ddarparu mwy o ofal yn y gymuned, lleihau faint o bobl sy'n mynd i'r ysbyty am driniaeth arferol, a dilyn cynllun iechyd doeth.

Dywedodd y byddai'n gweithio dros yr haf gyda'r gweinidog cyllid i "ymateb i'r heriau sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad hwn".

Nid Cymru yw'r unig wlad sy'n wynebu problemau o'r fath - fe wnaeth adroddiad yn 2012, gan yr un sefydliad, wneud rhagdybion tebyg am Loegr.