'Gormod o bwyslais ar statws yr iaith' medd Carwyn Jones

Carwyn Jones
Image caption Mae rhan fwyaf y £1.6m wedi ei ail-flaenoriaethu, meddai Carwyn Jones, yn hytrach nag yn arian 'newydd'

Mae gormod o bwyslais wedi cael ei roi yn y gorffennol ar statws yr iaith Gymraeg, er bod hynny'n bwysig, yn hytrach na meddwl am ffyrdd o annog pobl i siarad yr iaith o ddydd i ddydd.

Dyna ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Mercher.

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd yntau fuddsoddiad o £1.6 miliwn yn yr iaith Gymraeg dros gyfnod o ddwy flynedd, wrth amlinellu polisi ei lywodraeth o ran yr iaith tuag at y dyfodol.

Yn ôl y prif weinidog, "Does dim atebion rhwydd, s'dim un peth sy'n mynd i wneud gwahaniaeth, mae angen tynnu popeth at ei gilydd er mwyn sicrhau dyfodol i'r iaith.

"Mae gormod o bwyslais wedi cael ei roi yn y gorffennol ar statws yr iaith, er bod hynny'n bwysig, yn hytrach na meddwl am ffyrdd o annog pobl i siarad yr iaith o ddydd i ddydd.

"Mae angen gwneud pethau'n fwy cytbwys".

'Iaith gymunedol'

Wrth siarad am Fwrdd yr Iaith, mynegodd ei farn fod y Bwrdd wedi llwyddo i godi statws yr iaith ond heb fod mor llwyddiannus wrth hybu defnydd o'r iaith.

"Felly dyna'r her er mwyn parhau'r iaith fel iaith gymunedol", meddai.

Wrth gyfeirio at y buddsoddiad o £1.6 miliwn, dywedodd bod rhan o'r arian yn newydd, sef y £400,000 ar gyfer peilot yn Nyffryn Teifi.

Mae gweddill yn arian wedi ei ail-flaenoriaethu, meddai.

Pwysleisiodd bod angen hyder ar bobl i ddefnyddio'r Gymraeg, a bod angen sicrhau bod cyfleoedd i bobol siarad yr iaith ar ôl gadael yr ysgol.

"Mae hynny'n her", meddai, gan ychwanegu bod angen i bobl "weld bod 'na fywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn y byd busnes a gwyddoniaeth", a bod angen i fusnesau gael arwyddion Cymraeg er mwyn "normaleiddio'r iaith".

'Cymunedau Cymraeg yn cael eu chwalu'

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, y grŵp lobïo dros y Gymraeg, wrth BBC Cymru Fyw: "Tra bod cymunedau Cymraeg yn cael eu chwalu, mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau statws a hawliau ieithyddol".

Ymatebodd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i ddatganiad y Prif Weinidog ddydd Mawrth trwy ddweud: "Prin iawn oedd y cig oedd wedi wedi ei addo yn natganiad Carwyn Jones.

"Mae'r Llywodraeth wedi bod yn addo datganiad ers wythnosau ac mae blwyddyn a hanner ers canlyniadau'r Cyfrifiad.

"Yr oll sydd gyda ni fan hyn yw drafft o bolisi - pryd fyddwn ni'n gweld gweithredu?"

Straeon perthnasol