Ymweliad â Old Trafford i ddechrau tymor yr Elyrch

Garry Monk Image copyright Getty Images
Image caption Y tymor nesaf bydd yr Elyrch a'u hyfforddwr, Garry Monk yn cychwyn yn Old Trafford.

Mae Abertawe yn dechrau eu tymor gyda gêm yn Old Trafford. Bydd tîm Garry Monk yn wynebu Louis van Gaal yn ei gêm gyntaf yn yr uwch gynghrair fel rheolwr Manchester United,

Mae'r gêm brynhawn Sadwrn, 16 Awst, yn adlewyrchu penwythnos agoriadol 2013 pan groesawodd yr elyrch rheolwr arall newydd, David Moyes, i Stadiwm Liberty.

Bydd gêm cartref cyntaf Abertawe ar Awst 23ain yn erbyn Burnley, sydd newydd gael eu dyrchafu.

Image copyright Getty Images
Image caption Yr Elyrch fydd gwrthwynebwyr gyntaf Louis van Gaal, fel rheolwr Manchester United yn yr Uwch-Gynghrair

Ar Ŵyl San Steffan, bydd yr elyrch yn croesawu Aston Villa, ac yna bydd taith i Anfield i herio Lerpwl ar Ragfyr 28.

Ar ddiwrnod cyntaf 2015 bydd gan gefnogwyr Abertawe daith ar hyd yr M4 i wynebu Queens Park Rangers.

Diwedd caled i'r tymor?

Bydd mis Mai yn gyfnod heriol, gan ddechrau gydag ymweliad Mark Hughes a Stoke, yna taith i Arsenal cyn eu gêm olaf yn y Liberty, yn erbyn y pencampwyr Manchester City.

I orffen y tymor, bydd Abertawe yn ymweld â Pharc Selhurst i herio Crystal Palace - sy'n cael eu hyfforddi gan y Cymro, Tony Pulis.

Bydd rhai o fanylion y gemau yma yn newid oherwydd anghenion darlledwyr.

Awst 2014

Man Utd v Abertawe, Sadwrn, 16 Awst, 15:00

Abertawe v Burnley, Sadwrn, 23 Awst, 15:00

Abertawe v West Brom, Sadwrn, 30 Awst, 15:00

Medi 2014

Chelsea v Abertawe, Sadwrn, 13 Medi, 15:00

Abertawe v Southampton, Sadwrn, 20 Medi, 15:00

Sunderland v Abertawe, Sadwrn, 27 Medi, 15:00

Hydref 2014

Abertawe v Newcastle, Sadwrn, 4 Hydref, 15:00

Stoke v Abertawe, Sadwrn, 18 Hydref, 15:00

Abertawe v Caerlŷr, Sadwrn, 25 Hydref 15:00

Tachwedd 2014

Everton v Abertawe, Sadwrn, 1 Tachwedd, 15:00

Abertawe v Arsenal, Sadwrn, 8 Tachwedd, 15:00

Man City v Abertawe, Sadwrn, 22 Tachwedd, 15:00

Abertawe v Crystal Palace, Sadwrn, 29 Tachwedd, 15:00

Rhagfyr 2014

Abertawe v QPR, Nos Fawrth, 2 Rhagfyr, 19:45

West Ham v Abertawe, Sadwrn, 6 Rhagfyr, 15:00

Abertawe v Tottenham , Sadwrn, 13 Rhagfyr, 15:00

Hull v Abertawe, Sadwrn, 20 Rhagfyr, 15:00

Abertawe v Aston Villa, Gwener, 26 Rhagfyr 15:00

Lerpwl v Abertawe, Sul, 28 Rhagfyr, 15:00

Ionawr 2015

QPR v Abertawe, Iau, 1 Ionawr 15:00

Abertawe v West Ham, Sadwrn, 10 Rhag, 15:00

Swansea v Chelsea, Sadwrn, 17 Ionawr, 15:00

Southampton v Abertawe, Sadwrn, 31 Ionawr, 15:00

Chwefror 2015

Abertawe v Sunderland, Sadwrn, 7 Chwefror 15:00

West Brom v Abertawe, nos Fawrth 10 Chwefror 20:00

Abertawe v Man Utd, Sadwrn, 21 Chwefror, 15:00

Burnley v Abertawe, Sadwrn, 28 Chwefror, 15:00

Mawrth 2015

Tottenham v Abertawe, nos Fercher, 4 Mawrth, 19:45

Abertawe v Lerpwl, Sadwrn 14 Mawrth, 15:00

Aston Villa v Abertawe, Sadwrn, 21 Mawrth, 15:00

Ebrill 2015

Abertawe v Hull, Sadwrn, 4 Ebrill, 15:00

Abertawe v Everton, Sadwrn, 11 Ebrill, 15:00

Caerlŷr v Abertawe, Sadwrn, 18 Ebrill, 15:00

Newcastle v Abertawe, Sadwrn, 25 Ebrill, 15:00

Mai 2015

Abertawe v Stoke, Sadwrn, 2 Mai, 15:00

Arsenal v Abertawe, Sadwrn, 9 Mai, 15:00

Abertawe v Man City, Sadwrn, 16 Mai, 15:00

Crystal Palace v Abertawe, Sul, 24 Mai 15:00

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.