Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Efa Thomas
Image caption Mae Efa Thomas yn honni bod Maes B wedi gadael hanner y boblogaeth i lawr

Yn ôl Efa Thomas mewn erthygl ar wefan Cymru Fyw, efallai mai gigs Maes B ydi'r unig dro yn ystod y flwyddyn y mae pobl ifanc yn gwylio bandiau Cymraeg, ac mae hi'n flin - yn gandryll - bod y 'line-up' eleni mor brin o ferched.

Dydi o ddim yn beth newydd, meddai. Mae gigs Cymraeg yn aml yn adlewyrchu'r gymdeithas batriarchaidd 'da ni byw ynddi, a'r hyn mae Maes B yn ei wneud yw rhoi llwyfan unwaith eto i lwyth o hogiau mewn bandiau 'indie', sydd i gyd i'w gweld yn debyg iawn i'w gilydd.

Mae'n holi pa fath o argraff mae hyn yn ei roi o gerddoriaeth gyfoes Cymraeg, ac mae'n mynnu bod Maes B wedi gadael hanner y boblogaeth i lawr.

"Pwy yw bos tŷ ni?"

Dros y mis diwethaf mae'r newyddiadurwr Owain Evans wedi bod ar gyfnod tadolaeth, yn gofalu am ei ferch Myfi tra bod ei wraig, Bethan, wedi dychwelyd i'r gwaith, ac mae wedi bod yn cofnodi ei hynt ar Cymru Fyw.

Yr wythnos hon, ag yntau i fod yn glanhau llanast o'r llawr, fe'i cafodd ei hun yn rhowlio o gwmpas gyda dau blentyn bach bywiog yn neidio ac yn dringo drosto.

Wrth gwrs roedd hwn yn dasg ddifrifol: yn ôl Owain, mae cael gwared ar egni plant bach yn rhan bwysig o waith tadau.

Ar y llaw arall mae Mrs O yn dadlau mai'r cyfan mae'n gwneud yw "weindio nhw lan" ond fel y dywed Owain: mae hi jyst yn genfigennus achos taw fi yw reslwr gorau tŷ ni.

Cyn pen dim daeth y frwydr i ben a'r ddau blentyn ar wastad eu cefnau ar y llawr wedi ymlâdd.

Buddugoliaeth arall i Dad, oedd yn methu help â gwaeddi "Pwy yw bos tŷ ni?" Tydi hi'n anodd bod yn rhiant.

Cymry di-asgwrn cefn

Image caption Bu "storm o ddicter" ar ôl i Cerys Matthews dderbyn MBE

Drwy ymfalchïo yn ei lwyddiant, 'dyw Owain Evans ddim yn Gymro traddodiadol, os ydyn ni i gredu blog diweddaraf Ifan Morgan Jones.

Ymateb mae Ifan i'r storm o ddicter a dorrodd unwaith eto ar ôl i Cerys Matthews dderbyn MBE, gan ei chyhuddo o fod yn daeog.

Mae hanes ein cenedl, meddai, yn awgrymu bod gennym ni le i ddiolch i'r Cymry di-asgwrn cefn yn ein plith.

Gellid dadlau na fyddai ein hiaith a'n diwylliant ni'n bodoli heddiw pe na bai'r Cymry mor tu hwnt o liprynnaidd.

Wele er enghraifft y modd y cafodd y Cymry eu trin yn y canol oesoedd o'u cymharu â'r Gwyddelod a'r Albanwyr.

Oherwydd bod Cymru wedi ymostwng mor barod i ewyllys coron Lloegr, ni aethpwyd ati i geisio dinistrio'r iaith frodorol â'r un eiddgarwch ag a welwyd yn y gwledydd rheini.

Wrth gwrs does 'na'r un wlad yn mynd i selio ei 'myth' cenedlaethol ar ei gallu i gadw ei phen i lawr ac osgoi cythruddo unrhyw un arall.

Fe fyddai yn well gennym ni edrych yn ôl at Owain Glyndŵr a Llywelyn ein Llyw Olaf, ond y cyfan a gyflawnon nhw oedd tynnu nyth cacwn i'w pennau.

Beth am ddiolch yn lle i Cerys Matthews ac MBEs eraill y byd am blygu glin i'r Frenhines - falle y cawn ni ganiatâd i siarad y Gymraeg am ychydig flynyddoedd eto, meddai Ifan.

Ansawdd iaith ar y teledu

Image copyright Getty Images
Image caption Nid ardal y dacl y dylai gohebwyr rygbi ei ddweud ond tir y dacl, neu dacldir

Ond sut iaith fydd hi? Llythyr o gŵyn unwaith eto yn y Cymro am ansawdd iaith ar y teledu, y tro hwn yn gwaredu fod pobl yn drysu rhwng cwympo, syrthio a disgyn, ac yn enwedig y gorddefnydd o'r gair ardal.

Nid ardal y dacl y dylai gohebwyr rygbi ei ddweud meddai Gareth Rowlands o Fachynlleth, ond tir y dacl, neu dacldir.

Wir? Mi bryna i beint i'r sylwebydd rygbi cyntaf glywaf i'n dweud tacldir yng nghanol gêm ryngwladol heb faglu dros ei eiriau.

Mae adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu bob bore Gwener ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch.