Co-ed Glyn Cynon

Un o'r ffeithiau y mae anoracs gwleidyddol yn hoff iawn ohoni yw'r ffaith mai dim ond tair ar ddeg o fenywod sydd wedi cynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae rhai ohonom hyd yn oed yn gallu eu henwi!

Dyma nhw; Megan Lloyd George, Eirene White, Dorothy Rees, Ann Clwyd, Jackie Lawrence, Betty Williams, Julie Morgan, Nia Griffith, Siân James, Jessica Morden, Madeleine Moon, Susan Elan Jones a Jenny Willott.

Mae'n werth nodi nad oes 'na un aelod o'r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru ar y rhestr. Mae Jenny Willott yn Ddemocrat Rhyddfrydol ac fe fuodd Megan Lloyd George yn Rhyddfrydwraig cyn troi at Lafur ond ar y cyfan Llafur sydd wedi gwneud y gwaith caib a rhaw o gael merched i mewn i'r Senedd.

Mae 'na rywbeth arall yn gyffredin rhwng yr enwau ar y rhestr. Gydag ambell eithriad mae menywod wedi tueddu cael eu dewis mewn etholaethau ymylol neu led-ymylol.

Dyw e ddim yn syndod felly bod aelodau Llafur fel Julie Morgan, wnaeth golli ei sedd ymylol yn 2010, yn dadlau y dylid mabwysiadu rhestr fer menywod yn unig bob tro y dewisir ymgeisydd newydd yn un o'r cadarnleoedd Llafur.

Dyna hefyd, mae'n debyg, oedd y rheswm y gwnaeth panjyndryms y blaid benderfynu y dylid cael rhestr o'r fath yng Nghwm Cynon yn sgil penderfyniad Ann Clwyd roi'r tŵls ar y bar. Wedi'r cyfan, go brin y byddai etholaeth wnaeth dorri'r mold yn 1984 trwy ddewis menyw ac sy'n cael ei chynrychioli yn y Cynulliad gan Christine Chapman yn gwrthwynebu'r syniad.

Y gwrthwyneb sydd wedi digwydd. Gellir crynhoi ymateb aelodau Llafur Cwm Cynon mewn dau air - pam ni? Pam gorfodi rhestr fer menywod yn unig ar Gwm Cynon yn hytrach nac Aberafan, dyweder - etholaeth sydd erioed wedi enwebu menyw ar gyfer San Steffan na Bae Caerdydd?

Ar lawr gwlad yng Nghwm Cynon mae'r peth yn drewi o fod yn ffics gwleidyddol - bod rhestri menywod yn unig yn cael eu anghofio'n gyfleus os ydy un o ffefrynnau'r blaid ganolog yn chwennych sedd.

Neithiwr fe gafodd yr aelodau lleol y cyfle i leisio eu dicter i Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid, Iain McNicol a Cath Speight sy'n aelod o'r pwyllgor gwaith. Ar ôl cyfarfod a ddisgrifir fel un 'emosiynol' addawodd Mr McNicol ymateb ymhen pythefnos.

Ond nid dim ond cwestiwn ynghylch cynrychiolaeth menywod yw hwn. Mae 'na gwestiwn yn codi hefyd ynghylch gallu cnewyllyn yn y canol i ddylanwadu ar ddewisiadau pleidiau lleol.

Yn ôl ymchwil gan bapur newydd y Guardian mae 54% o'r ymgeiswyr Llafur a ddewiswyd hyd yma mewn etholaethau ymylol a seddi lle mae'r aelod yn ymddeol yn gweithio neu wedi gweithio yn y byd gwleidyddol yn llawn amser. 46% a 17% yw'r ffigyrau cyffelyb ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr.

Go brin y byddai unrhyw un yn gweld hynny fel sefyllfa iach ac eithrio efallai'r llu o ymchwilwyr, lobïwyr a chynghorwyr arbennig sy'n deisyfu eistedd ar y meinciau gwyrddion.

Hawdd deall dicter gwŷr a gwragedd Cwm Cynon.