Dau newid i'r tim i wynebu De Affrica

rygbi De Affrica Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Cymru eu trechu 38-16 yn Durban

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi'r tîm i wynebu De Affrica yn yr ail gêm brawf dydd Sadwrn.

Bydd Samson Lee yn dechrau gêm brawf i Gymru am y tro cyntaf, yn lle Adam Jones.

Yr unig newid arall yw ymddangosiad Josh Turnbull yn y rheng ôl.

Dywedodd Warren Gatland: "Roedden ni 'n siomedig iawn â'r perfformiad dydd Sadwrn diwethaf ond mae angen i ni orffen y tymor â pherfformiad mawr.

"Mae'n gyfle gwych i Samson a Josh ac maen nhw'n haeddu'r cyfle ar ôl chwarae yn dda o'r fainc y penwythnos diwethaf."

Tim Cymru v De Affrica

Stadiwm Mbombela, Nelspruit, 2pm dydd Sadwrn

Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton Saints), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Cardiff Blues), Ken Owens (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Capten) (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Josh Turnbull (Scarlets), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Matthew Rees (Gleision), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), James Hook (Perpignan), Matthew Morgan (Gweilch).