Arddangosfa ryfel: ffrwyth llafur Ysgol Maes Garmon

Ysgol Maes Garmon Image copyright Ysgol Maes Garmon
Image caption Disgyblion Ysgol Maes Garmon sy' wedi ymchwilio i'r Rhyfel Byd Cyntaf

Mae arddangosfa yn Yr Wyddgrug yn dangos effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar deuluoedd y gogledd.

Ffrwyth llafur disgyblion Ysgol Uwchradd Maes Garmon yw'r arddangosfa yng Nghanolfan Daniel Owen.

Oherwydd grant £10,000 Cronfa Loteri Treftadaeth mae'r disgyblion wedi bod yn ymchwilio i hanes teuluoedd.

Mae llyfr yn cael ei lansio a rhaglen ddogfen am y rhyfel yn cael ei ddangos.

Hefyd mae tapestri o ddelweddau'r rhyfel, gwaith y disgyblion a'r artist tecstiliau Cefyn Burgess.

Dywedodd Owen Thomas, pennaeth hanes yr ysgol: "Arddangosfa yw hon yn edrych ar hanesion aelodau teulu ein disgyblion adeg y rhyfel.

"... roedd y disgyblion yn dechrau trwy holi eu rhieni, eu nain a'u taid i ddarganfod cysylltiadau. Yna mi oedden nhw'n casglu eitemau fel dyddiaduron, llythyrau, cardiau post, lluniau, medalau ac erthyglau yn y papurau lleol. Mae gennym ni tua 40 o hanesion sydd wedi eu hymchwilio'n fanwl.

"Be' sy'n braf ydi bod disgyblion trwy'r ysgol i gyd, o flwyddyn saith i 13, wedi dangos diddordeb a brwdfrydedd yn y pwnc. Dwi'n gobeithio bod disgyblion yn gweld bod hanes yn hwyl ac yn fyw. Mae'n well dysgu fel hyn na bod yn styc mewn dosbarth yn gweithio allan o lyfr."

Image copyright Ysgol Maes Garmon

Hanes Lewis Lewis

Un o'r disgyblion oedd yn ymchwilio yw Owen Williams o flwyddyn 12 sydd wedi darganfod nifer o ffeithiau am ei hen hen daid, Lewis Lewis o Ddeiniolen yng Ngwynedd.

"Roedd ganddo bedwar brawd ac mi oedden nhw i gyd yn gweithio yn y chwareli ar Stad y Faenol.

Image copyright Maes Garmon
Image caption Tystysgrif Lewis Lewis yn dweud ei fod wedi gwasanaethu gydag anrhydedd ac wedi cael ei anafu yn y rhyfel.

"Yn ystod y rhyfel, fe wasanaethodd Lewis Lewis a'i frawd iau John yn y fyddin. Dim ond 17 oed oedd pan ddywedodd gelwydd am ei oed er mwyn ymuno.

"Galwyd Lewis i fyny ar 2 Chwefror, 1916, i Fataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chafodd ei anfon i'r Somme yn Ffrainc yn Awst 1916. Cafodd ei gofnodi ar goll ar 3 Fedi 1916 ond fe ddaeth i'r golwg gydag anafiadau i'w fraich. Fe dorrwyd ei fraich i ffwrdd yn ddiweddarach."

"Mae'n fwy na thebyg yr oedd yn ymladd ym Mrwydr Guillemont ddechreuodd y diwrnod hwnnw. Roedd yn frwydr arbennig o waedlyd ac fe gollodd y bataliwn 22 o ddynion yr un diwrnod, yn cynnwys wyth o Ddeiniolen.

"Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ar 24 Awst, 1917, yn 20 oed, ac fe ddychwelodd i Ddeiniolen. Er mai dim ond un fraich oedd ganddo, llwyddodd i weithio yn y chwarel a chynnal tyddyn.

"Dioddefodd ei frawd, John, yn waeth gan golli ei ddwy goes a threulio'i oes mewn cadair olwyn. Pan werthwyd y chwarel gan y perchennog, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dynion a anafwyd felly mae'n rhaid eu bod wedi cael amser caled iawn."

Bydd yr arddangosfa tan 22 Mehefin.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.