Cwpan y Byd 2015: Belarws 0-3 Cymru

Cymru v Belarws Image copyright PA

Roedd hatric hwyr i Natasha Harding yn gymorth i ferched Cymru guro Belarws wrth i'r tîm geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn 2015.

Roedd rhaid i Gymru aros nes y 79fed munud i fynd ar y blaen, ond fe ddaeth 'na ddwy gôl arall yn fuan wedi hynny i gloi'r gêm ym mhrifddinas Belarws, Minsk.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n parhau i fod yn yr ail safle yn eu grŵp, bum pwynt y tu ôl i Loegr.

Fe gurodd Lloegr yr Wrcain 2-1.

Fe fydd yr hen elynion yn wynebu ei gilydd yng Nghaerdydd, ddydd Iau Awst 21.