Llofrudd Antigua wedi ei ddal ar ôl dianc o'r carchar

Avie Howell Image copyright Antigua Police
Image caption Cafodd Avie Howell ei garcharu am lofruddio Ben a Catherine Mullany yn 2008

Mae dyn gafodd ei garcharu am oes am ladd cwpl o dde Cymru yn Antigua wedi cael ei ddal ar ôl dianc o'r carchar.

Mae ef yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu yn ei ben-glin.

Fe wnaeth Avie Howell a dyn arall, Kaniel Martin, saethu Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed ac o Bontardawe, ym mis Gorffennaf 2008.

Roedd y ddau ar ddiwrnod olaf eu mis mêl yn Antigua.

Bu farw Mrs Mullany yn syth wedi iddi gael ei saethu yn y bwthyn oedd yn rhan o'r gwesty.

Anafwyd ei gŵr yn ddifrifol a chafodd ei gludo yn ôl i Gymru cyn marw wythnos yn ddiweddarach.

Image copyright Other
Image caption Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu ar eu mis mêl yn Antigua

Dywed heddlu Antigua fod Howell wedi dianc ddydd Iau ar ôl dringo wal 30 troedfedd (9 m), ond daeth cadarnhad brynhawn Gwener ei fod wedi ei ddal.

Roedd wedi llwyddo i ddianc gyda dyn arall oedd yn wynebu achos llys ar gyhuddiadau o dwyll.

Cafodd Howell a Martin eu dyfarnu'n euog o lofruddio Mr a Mrs Mullany yn 2011.

Straeon perthnasol