Morgannwg yn colli i Surrey

Hashim Amla
Image caption Cafodd Hashim Amla 55 o rediadau

Mae Morgannwg wedi colli tir yn y T20 yn dilyn colled yn erbyn Surrey.

Yr ymwelwyr fatiodd gyntaf yn Stadiwm Swalec gan lwyddo i gael 165-5 diolch yn bennaf i Hashim Amla (55) a Kevin O'Brien (40 ddim allan).

Dim ond un rhediad gafodd Kevin Pieterson.

Fe wnaeth capten Morgannwg Jim Allenby yn dda (52) ond roedd Tom Curran ar dân i Surrey (3-23) gan sicrhau buddugoliaeth i'w dîm.

Gyda chwe phelawd ar ôl roedd y tîm o Gymru angen 61 rhediad gyda chwech o wicedi i'w sbario ond wedi i Curran gael Chris Cooke a Ben Wright allan yn ystod y 15fed pelawd, doedd dim ffordd yn ôl iddynt.