Dyn o Gaerdydd yn 'ymladd yn Syria'

Fideo gan Isis sydd i'w weld yn dangos ymladdwyr o Brydain ac Awstralia
Image caption Fideo gan Isis sydd i'w weld yn dangos ymladdwyr o Brydain ac Awstralia

Dyn o Gaerdydd yw un o'r rhai mewn fideo sydd i'w weld yn dangos dynion o Brydain yn galw ar bobl i ymuno â'r jihad yn y dwyrain canol.

Mae'n debyg bod Nasser Muthana, 20 wedi rhoi'r gorau i astudio meddygaeth er mwyn ymuno gyda'r gwrthryfelwyr yn Syria.

Cafodd y fideo ei gyhoeddi ar y we gan gyfrifon sydd â chysylltiadau gyda Isis (State of Iraq and the Levant), grwp sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yn sgil eu buddugoliaethau milwrol yn Irac.

Yn ôl ei deulu, fe aeth Mr Muthana i Syria gyda'i frawd bach 17 mlwydd oed Aseel.

Image caption Mae teulu Nasser Muthana yn dweud eu bod nhw'n torri eu calonnau o glywed ei fod yn Syria

'Torcalonnus'

Fe ddywedodd llefarydd ar ran ei deulu: "Dydyn nhw ddim yn hapus am y ffaith bod Nasser wedi mynd. Doedden ni ddim yn gwybod ei fod yn mynd. Fyddan ni heb adael iddo fynd petai ni'n gwybod.

"Roedd fy nheulu yn fwy trist o glywed fod Aseel wedi mynd. Mae'n dorcalonnus oherwydd nad ydan ni'n gwybod os wnawn ni fyth eu gweld nhw eto.

"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod lle maen nhw a dydyn ni ddim mewn cysylltiad â nhw.

"Fe aeth Nasser ac Aseel oherwydd eu bod nhw'n teimlo'n euog am Syria ond roedden ni wedi synnu o'u gweld nhw'n siarad am y pethau hyn ar YouTube.

"Roedd y ddau yn dduwiol a chrefyddol a gyda diddordeb yn y ffydd."

Mewn cyfweliad ar ITV News, fe ddywedodd tad y ddau ei fod yn "drist, yn crio".

"Yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw gafael ynddo a dweud wrtho ddod yn ol," meddai.

Ddydd Iau fe wnaeth llywodraeth y DU hi'n drosedd i fod â chysylltiadau gyda Isis neu i roi cefnogaeth ariannol iddyn nhw.

Straeon perthnasol