Diwrnod 1: Caerloyw 308-5 v Morgannwg

Hamish Marshall Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Caerloyw argraff ar ddiwrnod cynta'r gêm yn erbyn Morgannwg, wrth i Hamish Marshall sgorio 100 rhediad am yr eildro y tymor hwn.

Fe gafodd Michael Hogan (3-39) wared ar Chris Dent am ddau yn y chweched pelawd, ond fe roddodd Will Tavare (77) sylfaen i fatiad cynta'r tîm cartref.

109 oedd cyfanswm rhediadau Marshall.

Fe gymrodd Morgannwg ddwy wiced wrth i'r dydd dynnu at y terfyn a 308-5 oedd y sgôr ar ddiwedd diwrnod cynta'r gêm.