Rhagor o gymorth i gyn-filwyr o Gymru

milwr Image copyright Getty Images

Fe fydd rhagor o gymorth i gyn-filwyr yn cael ei gyhoeddi, yn dilyn pryder am amseroedd aros i rai sy'n derbyn triniaeth anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yng Nghymru.

Mae rhaglen Sunday Politics y BBC wedi canfod bod amseroedd aros yn amrywio o bythefnos i chwe mis.

Fe ddywedodd llefarydd iechyd y blaid Geidwadol yng Nghymru, Darren Millar bod angen gwneud mwy i osgoi problemau'n y dyfodol - yn cynnwys cynnydd mewn hunan-laddiadau ymysg cyn-filwyr.

Fe fydd gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i gyn-filwyr yn ail-ddechrau ddydd Iau.

'Triniaeth gyflym'

Yn ôl Dr Neil Kitchiner - sy'n arbenigo yn y maes - mae angen i gyn-filwyr â symptomau gael triniaeth yn gyflym.

"Os nad ydy rhywun yn dangos symptomau i seiciatryddion tra mae'n nhw'n gwasanaethu - yn aml iawn mae'n nhw'n gadael, ac yna flynyddoedd yn ddiweddarach mae'n nhw'n cael problemau a symptomau fyddai wedi gallu cael eu trin lawer ynghynt," meddai.

"Efallai eu bod nhw'n cael trafferth yn eu bywyd carwriaethol, 'falle eu bod nhw wedi mynd i'r carchar. 'Falle eu bod nhw'n ddigartref, neu'n gaeth i alcohol neu gyffuriau."

Fe ofynnodd Sunday Politics Wales i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru beth oedd hyd amser aros i rai â PTSD rhwng cael eu hasesu a dechrau eu triniaeth.

O'r byrddau iechyd wnaeth ymateb, roedd cleifion bwrdd Aneurin Bevan yn aros rhwng dwy a thair wythnos, lle'r oedd cleifion bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn aros hyd at 26 wythnos.

STORI MALDWYN

Image caption Fe ddioddefodd Maldwyn Jones o PTSD wedi ei amser yn y fyddin

Bu Maldwyn Jones yn aelod o'r fyddin am bron i 18 mlynedd, yn cynnwys cyfnod yn Rhyfel y Falklands. Fe dreuliodd amser yng Ngogledd Iwerddon, Belize a Cyprus, hefyd. Yn gyn-heddwas, mae erbyn hyn yn dafarnwr.

"Mae gadael y fyddin yn anodd. Yn y lluoedd arfog mae 'na lot o bethau'n cael eu gwneud i chi. Mae'r ffordd o fyw a'r brawdgarwch yn ffordd wahanol iawn i edrych ar fywyd.

"O ran PTSD, dw i'n meddwl mod i 'di sylwi'n eitha' cynnar mod i'n dioddef.

"Fe wnes i sgwrsio gyda nyrs seiciatryddol yn y fyddin, gan ddweud mod i'n siarad am rywun arall - er mai fi oedd hwnnw o ddifri' - ac fe ddywedodd wrtha'i fod y symptomau'n edrych yn debyg i PTSD.

"Ges i gyngor da. Mi wnes i ddelio hefo'/r peth ar fy mhen fy hun, wedyn.

"Y tro cyntaf i fi siarad am y peth 16 mlynedd wedi hynny, fe ddaeth i'r wyneb eto."

Fe fydd rhan o fuddsoddiad diweddar llywodraeth Cymru i ddarparu therapi seicolegol yn mynd tuag at driniaeth PTSD.

Mae disgwyl rhagor o fanylion yr wythnos hon.

Mae Darren Millar - sy'n cadeirio pwyllgor traws-bleidiol ar y lluoedd arfog - yn croesawu'r adnoddau ychwanegol.

Fe ddywedodd: "'Dy ni angen gwneud yn siwr fod meddygon - pan mae'n nhw'n gweld cyn-filwr gyda PTSD - yn gallu gweithredu'n gyflym a chynnig gwasanaeth prydlon".

"Os nad oes gennym ni hynny, yna'n anffodus fe welwn ni ragor o gyn-filwyr yn y system gyfiawnder, rhagor o deuluoedd yn chwalu, ac - yn anffodus - rhagor o gyn-filwyr yn lladd eu hunain."

Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 11.00yb ar Mehefin 22

Straeon perthnasol