Max Boyce yn gwella wedi triniaeth ar ei galon

Max Boyce

Mae Max Boyce yn gwella gartref wedi iddo gael llawdriniaeth frys ar ei galon.

Fe ddaeth meddygon o hyd i broblemau gyda chalon y canwr o Lyn-nedd, a chafodd lawdriniaeth ar unwaith mewn ysbyty preifat yng Nghaerdydd.

Mae ei daith 13 noson yn ystod yr hydref wedi ei gohirio wrth iddo wella.

Fe ddywedodd ei reolwr, Stuart Littlewood: "Mae'n driniaeth eitha' arferol felly mae o wedi cael dod o'r ysbyty ac mae e mewn hwyliau da.

"Mae ei wraig wedi cymryd rôl Florence Nightingale a dw i'n meddwl y bydd e'n ôl yn y gwaith erbyn y gwanwyn flwyddyn nesa'."

'Mewn sioc'

Ychwanegodd ei wraig, Jean: "Mae wedi bod yn dipyn o sioc, a dweud y gwir...

"Pan aetho' ni at y doctor, fe ddigwyddodd popeth mor sydyn... Mae e'n teimlo lot gwell yn barod - un dydd ar y tro."