Gwrthdrawiad marwol ar yr A465

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Heol Blaenau'r Cymoedd ger Clydach yn oriau mân bore Sul.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car Peugeot 206 glas a beic modur Kawasaki coch toc cyn un o'r gloch fore Sul.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Nawr, mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.

Gall unrhywun welodd y gwrthdrawiad ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod '34 22/6/14'.