A55 wedi ail-agor yn dilyn gwrthdrawiad

Mae'r A55 wedi ail-agor ar ôl iddi fod ar gau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol brynhawn Sul.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod oedi maith yn dilyn y gwrthdrawiad ar Allt Rhuallt.

Fe wnaeth y ffordd aros ynghau am nifer o oriau, ond roedd wedi ail-agor erbyn bore Llun.

Er hynny, mae un lôn yn dal i fod ar gau i gyfeiriad y gorllewin, wrth i waith trwsio brys gael ei gwblhau.