Cestyll yn cochi i gefnogi Cymru

castell caernarfon
Image caption Mae Castell Caernarfon ymysg y golygfeydd adnabyddus sy'n rhan o'r dathlu

Wrth i Dîm Cymru baratoi i deithio i Glasgow ar gyfer Gemau'r Gymwanwlad, fe fydd rhai o adeiladau enwoca' Cymru yn gwisgo coch nos Lun i gefnogi'r criw.

Gyda mwy na 200 o athletwyr ar fin teithio i'r gemau, bydd nifer o'n cestyll a'n hadeiladau mwyaf cyfarwydd yn gwisgo coch tîm Cymru ac yn cael logo newydd Tîm Cymru wedi'i daflunio arnyn nhw.

Fe fydd Castell Caerdydd, Castell Talacharn, Castell Conwy, Castell Caerffili a Chastell Caernarfon yn dangos eu cefnogaeth i'r tîm.

Hefyd, bydd Canolfan Mileniwm Cymru, yr Eglwys Norwyaidd a Basn Roald Dahl yng Nghaerdydd yn cynnal sioe oleuadau unigryw.

Un tîm

Mae logo brand elitaidd Tîm Cymru wedi cael ei ddatblygu i'w ddefnyddio gan chwaraeon, sefydliadau chwaraeon a darparwyr hamdden yng Nghymru fel arwydd o un tîm yn gweithio ar lefel elitaidd a llawr gwlad i sicrhau llwyddiant i Gymru.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i rannu eu lluniau o'r digwyddiadau unigryw yma gan ddefnyddio'r hashnodau #poblwc2014 a #GoWales ar wefannau cymdeithasol.

"Mae'r cyffro'n cynyddu nawr wrth i ni baratoi ar gyfer dechrau'r cystadlu yn Glasgow," meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell.

"Gyda'r genedl yn cefnogi Tîm Cymru, rydyn ni'n gwybod y bydd ein hathletwyr ni'n cael hwb mawr ac yn gwneud eu gorau glas dros y fest goch.

"Dyma gyfle arall i ni ddangos ein bod ni i gyd, ar hyd a lled y wlad, yn sefyll fel un i ddangos ein cefnogaeth."