Ian Evans yn arwyddo i Fryste

Ian Evans

Mae Bryste wedi arwyddo clo Cymru Ian Evans o'r Gweilch.

Evans, 29 oed, yw'r 15fed chwaraewyr i ymuno â nhw'r tymor hwn ac yn y bencampwriaeth (ail adran Lloegr) y bydd yn chwarae'r flwyddyn nesaf.

Roedd Evans wedi bwriadu ymuno â Toulon ond ni ddigwyddodd hynny oherwydd bod Toulon eisiau cael llai o chwaraewyr tramor.

Dywedodd y Cymro: "Rwy'n nabod nifer o chwaraewyr yn y clwb ac maen nhw'n bositif iawn ynglŷn â'r cyfeiriad mae'r clwb wedi ei gymryd.

"Roedd yn ddewis hawdd i mi. Mae'n wych bod yn rhan o un o'r prosiectau mwyaf cyffrous yn rygbi Lloegr."

Fe chwaraeodd Evans 129 o gemau i'r Gweilch mewn naw tymor ac roedd yn aelod o garfan y Llewod aeth i Awstralia'r haf diwethaf.