Annibyniaeth a Chenedlaetholdeb

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis wedi bod yn ystyried a fyddai hi'n bosib i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun fel gwladwriaeth annibynnol.

Mae Gwion wedi bod yn ystyried y cwestiwn yng nghyd-destun refferendwm annibyniaeth yr Alban fydd yn cael ei gynnal ym mis Medi.

Wrth i'r gyfres Annibyniaeth ddirwyn i ben ar BBC Radio Cymru, mae Gwion Lewis yn trafod ei gasgliadau ar BBC Cymru Fyw:

Image copyright Rondo

Mae fy nhaith yn dirwyn i ben. Dair wythnos yn ôl, wrth ddisgwyl am drên i Fangor yng ngorsaf Euston, Llundain, ro'n i'n poeni ai peth doeth fyddai datgan ar BBC Radio Cymru nad o'n i'n siŵr a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol. Nid oedd angen i mi boeni.

Mae'r ebyst yr ydw i wedi eu derbyn ers i'r gyfres gychwyn yn awgrymu fod ansicrwydd sylweddol ynglŷn â goblygiadau'r refferendwm yn yr Alban eleni ar gyfer Cymru, a bod y mwyafrif o Gymry Cymraeg (heb sôn am Gymry di-Gymraeg) eto i'w darbwyllo fod angen unrhyw newid o bwys i'n statws fel cenedl.

Plaid Cymru ac annibyniaeth

Mae'n debyg fod hynny'n egluro pam nad yw Plaid Cymru wedi tynnu gormod o sylw at y syniad o "Gymru annibynnol" yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod y syniad hwnnw wrth wraidd ei chyfansoddiad. Mae yna arwyddion fod hynny'n newid yn sgîl yr ymgyrchu yn yr Alban eleni.

Mewn araith yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) yn gynharach y mis hwn dywedodd arweinydd y Blaid, Leanne Wood, yn glir ei bod yn "cefnogi sefydlu Cymru annibynnol". Ond go brin y gwelwn ni 'Annibyniaeth i Gymru' mewn llythrennau breision ar lwyfan cynhadledd Plaid Cymru eleni. "Llais cryfach i Gymru" - dyna'r dewis gofalus o eiriau a geir ar wefan y Blaid yn dilyn yr araith. Mae'r slogan ei hun yn gydnabyddiaeth mai rhan mwy blaenllaw o'r côr Prydeinig yw'r mwyaf sydd o fewn cyrraedd Cymru, yn wleidyddol, yn y tymor byr.

Image caption Mae Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn hyderus y bydd hi'n byw i weld Cymru annibynnol

Yn naturiol, nid yw hyn yn ddigon i'r lleiafrif o Gymry sydd eisoes wedi eu hargyhoeddi fod angen i ni redeg ein stondin ein hunain yn llwyr. Ddechrau'r ganrif hon, cododd plaid wleidyddol arall, 'Cymru Annibynnol', gan nad oedd rhai o aelodau Plaid Cymru yn teimlo ei bod yn gwneud digon i hyrwyddo annibyniaeth i Gymru. Nid nhw yw'r unig rhai sydd wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda'r "blaid genedlaethol" ychwaith. Gallwn ychwanegu Cymuned, Llais Gwynedd ac, yn fwy diweddar, Plaid Glyndŵr at y rhestr.

Oherwydd natur pryderon y mudiadau hyn, a'r ffordd y mae Plaid Cymru wedi gorfod ymateb iddyn nhw, rwy'n credu fod tuedd bellach i ni weld 'cenedlaetholdeb' Cymreig fel rhywbeth sy'n ymwneud â hyrwyddo diwylliant, iaith a chymunedau Cymraeg yn unig. Rwy'n pwysleisio'r gair "Cymraeg", nid "Cymreig". Un peth sydd wedi dod yn fwy-fwy amlwg i mi yn ystod fy nhaith yw nad yw'r mwyafrif helaeth o Gymry di-Gymraeg yn gweld cenedlaetholdeb Cymreig fel rhywbeth sy'n berthnasol iddyn nhw o gwbl.

Cenedlaetholdeb?

Beth, felly, yw ystyr a diben "cenedlaetholdeb" yng Nghymru heddiw? Rwy'n credu mai'r wers bwysicaf i mi ei dysgu yn ystod y mis diwethaf yw fod ein dehongliad ni o "genedlaetholdeb" yng Nghymru yn llawer mwy cul nag ydyw yn yr Alban a llawer o'r gwledydd eraill i ni eu trafod yn y gyfres, yn eu plith, Wcráin.

Y gred y dylid hyrwyddo'r diwylliant brodorol - dyna yw "cenedlaetholdeb" i ni yng Nghymru, ac mae tuedd i ni weld "annibyniaeth" drwy'r sbectol honno. Ond wrth holi pobl o bob cefndir yng Nghaeredin, yn cynnwys y dosbarth gwleidyddol, sylwais nad oedd cenedlaetholdeb Albanaidd yn fwy cymhleth, ar y cyfan, na chredu mai'r bobl sy'n gwybod sut i redeg yr Alban orau yw'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yno. Rhywbeth ar yr ymylon yw unrhyw syniad fod "diwylliant" yr Alban angen ei "ddiogelu".

Image caption Mae yna agweddau gwahanol at genedlaetholdeb yng Nghymru o'i gymharu â'r Alban, medd Gwion Lewis

"Cenedlaetholdeb Cymreig"

Os mai'r nod gwleidyddol yw "llais cryfach i Gymru" - ac mae'n ymddangos fod y prif bleidiau gwleidyddol bellach yn cytuno ar hynny i ryw raddau - efallai y bydd y wobr wleidyddol fwyaf ar gyfer y sawl sy'n llwyddo i farchnata "cenedlaetholdeb Cymreig" o'r newydd fel rhywbeth sy'n ymestyn y tu hwnt i'r Gymru Gymraeg.

Nid yw hynny'n awgrymu o gwbl y dylid arafu'r ymdrechion i gryfhau'r Gymraeg. Ond mae'n golygu gwahaniaethu rhwng yr ymgyrch gyfansoddiadol a'r frwydr ddiwylliannol a gofyn, o ddifrif, pa un sydd yn fwyaf tebygol o greu'r amodau er mwyn i'r diwylliant Cymraeg ffynnu yn y tymor hir.

Gallwch ddarllen blogiau eraill Gwion Lewis i gyd-fynd â'r gyfres Annibyniaeth ar BBC Radio Cymru yma:

Cymru annibynnol? (2 Mehefin 2014)

Cymru: Dysgu o brofiad Dwyrain Ewrop? (9 Mehefin 2014)

Annibyniaeth: Gwion yn yr Alban (16 Mehefin 2014)

Annibyniaeth, BBC Radio Cymru, Dydd Llun 23 Mehefin 12.31pm. Ail ddarllediad Dydd Sul 29 Mehefin 17.03pm.

Gallwch wrando eto ar y gyfres yn llawn ar wefan Radio Cymru.