Damwain: Rhyddhau ar fechnïaeth

Mae dyn 26 oed o Gaerloyw a gafodd ei arestio dan amheuaeth o yrru'n ddiofal, gyrru heb drwydded a gyrru heb yswiriant, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd ei arestio wedi gwrthdrawiad yng Nghwmbrân fore Sul - rhwng car glas, a dyn 75 oed oedd yn cerdded heibio - tua 09:45 ger yr orsaf golchi ceir ar Heol Llantarnam.

Mae'r dyn oedrannus yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dylai unrhyw un â rhagor o wybodaeth gysylltu drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod '237 22/06/14'.

Straeon perthnasol