Tân Caerfyrddin: Agor a gohirio cwest

Angel Jade Keogh Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Bu farw Angel Jade Keogh, tair oed, union flwyddyn ar ôl i'w brawd bach gael ei ddarganfod yn farw yn ei grud pan oedd yn chwe mis oed.

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth plentyn bach a fu farw wedi tân mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Angel Jade Keogh. tair blwydd oed, ar ôl tân yn y cartref teuluol yng Nghaerfyrddin ar 15 Mehefin.

Disgrifiodd ei mam Alice Smith, 24, sydd bellach wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty, ei merch fel "tywysoges hardd".

Dywedodd y byddai Angel yng nghalonnau'r teulu am byth.

Bu farw Angel union flwyddyn ar ôl i'w brawd bach, Jake, gael ei ddarganfod yn farw yn ei grud pan oedd yn chwe mis oed.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i achos y tân ddechreuodd nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fryn Gorwel am 18:15 ddydd Sul, a llwyddodd criwiau tân i reoli'r fflamau erbyn tua 22:00 nos Sul.

Image copyright Google
Image caption Bryn Gorwel yng Nghaerfyrddin

Straeon perthnasol