Enwi dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yr A465

Lee Harris Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Roedd Lee Harris yn 25 oed ac yn dod o Dredegar.

Mae gyrrwr beic modur fu farw wedi gwrthdrawiad ar Heol Blaenau'r Cymoedd ger Clydach yn oriau mân bore Sul wedi cael ei enwi.

Roedd Lee Harris yn 25 oed ac yn dod o Dredegar.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng car Peugeot 206 glas a beic modur Kawasaki coch toc cyn un o'r gloch fore Sul.

Dywedodd ei deulu: "Bydd colled fawr ar ôl Lee. Gofynnwn am lonydd i alaru."

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am dystion.

Gall unrhyw un welodd y gwrthdrawiad ffonio 101 gan nodi'r cyfeirnod '34 22/6/14'.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.