'Cefnogaeth fawr' wedi anaf i Owen Williams

Owen Williams Image copyright Getty Images

Mae canolwr y Gleision Owen Williams yn parhau yn yr ysbyty yn Singapore ar ôl iddo gael anaf wrth chwarae yng nghystadleuaeth y World Club 10s.

Cafodd y chwaraewr 22 oed ei anafu wrth i'r Gleision chwarae yn erbyn yr Asia Pacific Dragons brynhawn ddydd Sul.

Nid yw'r clwb wedi rhoi manylion am yr anaf hyd yn hyn.

Ar gyfryngau cymdeithasol, mae nifer o negeseuon cefnogaeth wedi eu anfon at y canolwr.

Daeth cefnogaeth cyd chwaraewyr fel Macauley Cook oedd wedi aros yn yr ysbyty tan fod teulu Owen Williams yn cyrraedd.

Image copyright Twitter

Daeth cefnogaeth hefyd chwaraewyr Cymru, gydag Alun Wyn Jones,Dan Lydiate a George North i gyd yn dymuno yn dda i Williams.

Image copyright Twitter

Mae rhanbarthau Cymru wedi dangos eu cefnogaeth a'r Scarlets a'r Dreigiau yn trydar negeseuon.

Yn y cyfamser, mae clybiau Leinster a Chaerloyw wedi dymuno pob lwc.

Daeth neges o gefnogaeth o ben draw'r byd yn Awstralia wrth i flaenasgellwr y Wallabies David Pocock drydar.

Mae nifer fawr o negeseuon wedi cael eu trydar yn defnyddio'r hashnod #StayStrongForOws.

Roedd Williams yn academi'r Gleision, gan arwyddo cytundeb gyda'r tîm cyntaf yn 2010.

Chwaraeodd i dimau dan 16 a than 20 Cymru, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm hŷn yn erbyn Japan yn 2013.