Gair o Gyngor

Ar y cyfan dyw pobol ddim yn cymryd rhyw lawer o ddiddordeb mewn hanes llywodraeth leol. Mae hynny'n biti. Mae 'na ambell i drysor wedi ei gladdu ymysg y dogfennau llychlyd. Cymerwch Swydd Cromarty yn yr Alban. Tan diwedd y 19eg ganrif roedd y sir honno'n cynnwys dwy ar hugain o wahanol ardaloedd - gyda phob un ohnyn nhw wedi gwahanu oddiwrth ei gilydd gan diroedd Swydd Ross - archipeligo o sir oddi mewn i sir arall.

Doedd pethau ddim mor eithafol â hynny yng Nghymru ond ar un adeg roedd Sir Fflint wedi ei rhannu'n hanner dwsin o ddarnau gydag un ohonyn nhw yn cynnwys tafarn y 'Boat' yn Erbistog ar lan afon Dyfrdwy a fawr ddim arall!

Trwy hap a damwain, brwydr a ffafr, yr oedd map llywodraeth leol Cymru wedi datblygu nes iddo gael ei rhwygo'n ddarnau gan lywodraeth Ted Heath yn ôl ar ddechrau'r saithdegau. O chwalu'r cyfan unwaith, gwaeth wneud eto ac fe wnaethpwyd hynny yng nghanol y nawdegau.

Mae'n eironig efallai mai'r blaid Geidwadol, y blaid sy'n cynnwys yr egwyddor o gadw pethau fel ac y maen nhw yn ei henw, sydd wedi potsian a llywodraeth leol ddwywaith.

Tro Llafur yw e'r tro hwn - ond haws dweud na gwneud. Yn ôl ym Mis Ionawr pan gyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Williams yn argymell torri'r nifer o gynghorau yng Nghymru yn ei hanner roedd Carwyn Jones a'i wynt yn ei ddwrn yn ysu am fynd i'r afael a'r dasg. Roedd yn gobeithio sicrhau cytundeb rhyng-bleidiol cyn y Pasg meddai.

Roedd hynny'n ymddangos yn dipyn o her ar y pryd. Roedd hi'n weddol amlwg y byddai'r Ceidwadwyr yn achub ar y cyfle i sicrhau mantais wleidyddol trwy frwydo i 'achub' Sir Fynwy a Bro Morgannwg ac y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu bod newid y system etholiadol yn rhan o unrhyw ddêl.

Roedd cytundeb 'rhyng-bleidiol' i bob pwrpas yn golygu cytundeb a Phlaid Cymru felly.

Efallai bod Carwyn wedi gobeithio ail-danio carwriaeth 'Cymru Un' ar gyfer encôr bach. Hawdd cynnau tan ar hen aelwyd, wedi'r cyfan. Efallai bod y Prif Weinidog wedi anghofio bod ei lywodraeth wedi treulio cryn amser dros y blynyddoedd diwethaf yn gwyrdroi neu ddadwneud nifer o bolisïau a rhaglenni'r glymblaid flaenorol.

Am ba bynnag rheswm mae'n weddol amlwg erbyn hyn nad yw Plaid Cymru am dderbyn gwahoddiad ei chyn sboner. Fe fyddai angen lot o flodau a llawer o sibrwd yn y glust i newid meddyliau ei harweinwyr.

Mae'n ymddangos felly y bydd Carwyn yn gorfod bwrw ymlaen ar ei liwt ei hun gan obeithio y bydd ambell i gyngor yn fodlon 'uno'n wirfoddol' er mwyn cael rhyw faint o fomentwm cyn etholiad Cynulliad 2016. Hyd y gwelaf i does 'na ddim ciw o arweinwyr cyngor yn ffurfio yng nghyntedd Tŷ Hywel ac mae ymateb cynghorwyr i'r syniad o adrefnu yn amrywio o'r llugoer i'r ffyrnig.

Fe ddysgodd Peter Thomas a David Hunt nad ar chwarae bach y mae adrefnu cynghorau Cymru. Efallai y byddai hi wedi bod yn syniad i'r Prif Weinidog ddarllen y gwerslyfr cyn cychwyn.