Pennaeth S4C eisiau mwy o raglenni Saesneg am Gymru

Ian Jones
Image caption Mae Ian Jones am weld mwy o gynnwys Saesneg am Gymru gan BBC Cymru

Clywodd Aelodau Seneddol bod angen i BBC Cymru gynyddu nifer y rhaglenni Saesneg sy'n cael eu gwneud am Gymru ac am y Cymry.

Cafodd y sylw ei wneud gan Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

Roedd yn gwneud sylw ar ddyfodol y BBC ac fe ddywedodd bod canolbwyntio ar lwyddiant rhaglenni fel Doctor Who a Casualty yn rhywbeth camarweiniol.

"Mae cynhyrchu Doctor Who a Casualty yng Nghymru yn dda, yn dda iawn ac mae'n cynorthwyo'r sgiliau yma ac yn helpu cystadleuaeth," meddai.

Dywedodd bod o hefyd yn gymorth o ran delwedd cynhyrchu ond nad oedd o'n meddwl mai dyna'r pwynt, bod y cyfan yn gamarweiniol.

Rhannu barn

"Dwi'n credu y byddai pobl Cymru yn gwerthfawrogi mwy o raglenni - mwy o raglenni lleol drwy gyfrwng y Saesneg.

"Os oes gen i unrhyw feirniadaeth o'r BBC yng Nghymru, mae'n feirniadaeth sy'n cael ei rannu gan gyn-gyfarwyddwyr y BBC yng Nghymru a byddwn i'n meddwl y cyfarwyddwr presennol, sef mae 'na ostyngiad sylweddol wedi bod yn y rhaglenni sy'n cael eu cynhyrchu a'u comisiynu dros y blynyddoedd yn Saesneg ar gyfer pobl Cymru.

"Fe fyddwn ni i gyn yn cefnogi cefnogaeth ar bobl lefel i gynyddu hynny."

Defnyddiodd Mr Jones enghraifft ddiweddar, Y Gwyll/Hinterland, a oedd yn gydweithrediad rhwng S4C a BBC Cymru ac a gafodd ei ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel llwyddiant.

Mae'r ddrama dditectif wedi cael ei phrynu gan sawl darlledwr Scandinafaidd ac fe ddywedodd Mr Jones bod hyn yn dangos galw cynyddol am raglenni lleol.

"Fe fyddwn ni'n dweud bod 'na alw am fwy o raglennu - mwy o raglennu lleol drwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru."

Wrth gyfeirio at y berthynas rhwng y BBC ac S4C dywedodd Mr Jones ei bod yn gweithio'n dda ac oherwydd bod y cytundeb gweithredu rhwng y darlledwyr yn nodi amod bod S4C yn annibynnol, yn olygyddol, yn weithredol ac o ran rheoli.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Rydym yn amlwg yn croesawu cyfraniad Ian Jones i'r drafodaeth am ddyfodol y BBC. Fe wnaeth Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC gydnabod ym mis Mai, mae yna her cyllido sylweddol a hirdymor yn wynebu rhaglennu yn Saesneg yng Nghymru. "

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.