Gwrthod apel dedfryd ffrwydron cyn faer Dinbych

John Larsen

Mae cyn faer gafodd ei garcharu am 18 mlynedd ar ôl gosod ffrwydron yng nghanol tref Dinbych wedi colli apêl yn erbyn ei ddedfryd.

Roedd John Larsen, 47, wedi gosod ffrwydron yn ardal Pwll y Grawys o'r dref, gan achosi difrod i geir a chartrefi.

Cafwyd Larsen yn euog o dri chyhuddiad o losgi bwriadol, un o achosi ffrwydrad yn debygol o beryglu bywyd ac un o feddu ar ffrwydron ym mis Hydref y llynedd.

Roedd wedi gwneud cais i'r Llys Apêl i leihau ei ddedfryd, ond roedd y tri barnwr yn credu bod y ddedfryd yn addas.

Cyfres o ffrwydradau

Clywodd y llys bod Larsen wedi gosod cyfres o ffrwydradau yn y dref, gyda'r mwyaf difrifol ar Fawrth 24, pan wnaeth dyfais gyda darnau metel ynddo ffrwydro.

Cafodd peli metel eu chwythu i bob cyfeiriad, gan dorri ffenestri adeiladau cyfagos. Cafodd un ei ddarganfod mewn pen gwely, tra bod un arall wedi taro uned i bobl a phroblemau iechyd meddwl.

Yn apelio, dywedodd y bargyfreithiwr Gordon Hennell na ddylai Larsen gael ei drin fel "terfysgwr".

"Nid troseddau terfysgaeth oedd y rhain ac felly, er y dylai'r man cychwyn fod yn un uchel, nid yw'n addas i ddefnyddio'r canllawiau dedfrydu terfysgaeth," meddai.

Dadl Mr Hennell oedd mai "bwriad neu parodrwydd" i ladd oedd terfysgaeth, ac mai nid dyna oedd bwriad Larsen.

'Ddim yn eithafol'

Cafodd y ddadl ei wrthod gan y barnwyr Mr Ustus Lewis, yr Arglwydd Ustus Treacy a'r Barnwr Melbourne Inman QC.

Wrth roi ei ddyfarniad, dywedodd Mr Ustus Lewis: "Yn ein dyfarniad, roedd dedfryd o 18 mlynedd yn llym, ond ddim yn eithafol.

"Mae'r rhain yn droseddau difrifol, heb ystyried os oedden nhw wedi eu hysgogi gan ystyriaethau gwleidyddol."

Wrth son am y ffrwydrad mwyaf difrifol, dywedodd bod "risg o beryglu bywyd person neu achosi anaf difrifol i berson", a bod y troseddau yn rhan o "ymgyrch o greu ofn bwriadol".

Straeon perthnasol