Marwolaeth ysbyty: arestio dau arall

Ysbyty Cwm Cynon
Image caption Cafodd y ddynes 88 oed ei darganfod gydag anafiadau difrifol yn Ysbyty Cwm Cynon

Mae dau unigolyn arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Tegwen Roderick.

Bu farw'r ddynes 88 oed o Abercannaid yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ar 4 Mehefin.

Cyn hynny roedd yn triniaeth yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar, ac fe gafwyd hyd iddi yno gydag anafiadau difrifol.

Fe gafodd dwy ddynes, un yn 58 a'r llall yn 62 eu harestio ddydd Iau Mehefin 18 ar amheuaeth o ymosod a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd dyn 64 oed a dynes 52 oed eisoes wedi cael eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd 10 o stwff Ysbyty Cwm Cynon eu gwahardd o'u gwaith yn wreiddiol, ond yna cafodd chwech ganiatâd i ddychwelyd.

Straeon perthnasol