Rhys Rowlands wedi ei apwyntio yn uwch farnwr

Y Barnwr Rhys Rowlands Image copyright Rhys Rowlands/Dee News
Image caption Rhys Rowlands yw uwch farnwr newydd gogledd Cymru

Mae uwch farnwr newydd ar gyfer gogledd Cymru wedi cael ei apwyntio.

Rhys Rowlands fydd yn olynu'r barnwr Merfyn Hughes QC, a wnaeth ymddeol yn ddiweddar fel barnwr preswyl y rhanbarth.

Cafodd ei eni ym Mangor ac mae'n byw yn Nyffryn Clwyd gyda'i ddwy ferch a'i wraig.

Mae ar hyn o bryd yn eistedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Coleg Llundain a Phrifysgol Caerdydd ac mae'n gyn-gyfreithiwr erlyniadau Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd ei alw i'r bar yn 1986 gan wasanaethau o siambrau yng Nghaer.

Cafodd ei benodi yn recordydd yn 2000 ac yn farnwr cylchdaith yn 2010 wedi ei leoli yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae hefyd wedi cynnal achosion yn y gogledd, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug a Chaernarfon.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.