Aldi yn bwriadu adeiladu canolfan dosbarthu yng Nghaerdydd

Aldi Image copyright AFP
Image caption Mae Aldi wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu canolfan rhanbarthol yng Nghaerdydd.

Mae cwmni Aldi wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu canolfan ddosbarthu ar gyrion Caerdydd a allai greu 400 o swyddi.

Mae'r cais ar gyfer adeiladu warws 46.219, metr sgwâr ar Barc Busnes Y Brifddinas yn ardal Trowbridge yn nwyrain Caerdydd.

Cafwyd caniatâd cynllunio i adeiladu canolfan dosbarthu rhanbarthol ar y safle yn 2004 ac fe gafodd y caniatâd ei adnewyddu yn 2009. Mae'r cynllun newydd ar gyfer y safle 11.59 hectar yn debyg iawn i'r rhai blaenorol, gyda swyddfeydd yn rhan o'r datblygiad.

Fel rhan o'r cais mae Aldi yn dweud byddai'r ganolfan yn rhoi hwb i'r economi leol ac yn creu swyddi.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud y bydd cyfnod o ymgynghori gyda'r datblygwyr cyn bydd y cynllun yn cael ei roi gerbron Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor.

Agorodd Aldi ei siopau cyntaf yn y DU yn 1990 ac mae fwy na 450 o siopau ledled y DU.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.