Dim ymchwiliad troseddol: 'Rhyddhad' Chris Holley

Chris Holley
Image caption Dywedodd Mr Holley ei fod e bellach yn poeni na fyddai rhai cymunedau'n cael eu hadnewyddu gan fod y cynllun wedi dod i ben.

Mae cyn aelod o gorff adnewyddu wedi mynegi rhyddhad wedi i'r heddlu gadarnhau nad ydyn nhw'n bwriadu cynnal ymchwiliad troseddol.

Mynnodd Chris Holley fod gwaith Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (CBCA) wedi bod yn werth chweil.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn parhau i graffu ar y Gronfa ac yn paratoi i gyhoeddi adroddiad yn yr hydref.

CBCA oedd yn gyfrifol am werthu darnau o dir o eiddo Llywodraeth Cymru. Ond mynegwyd pryder wedi iddi ddod i'r amlwg fod 16 safle wedi'u gwerthu'n breifat yn hytrach na thrwy ocsiwn cyhoeddus.

Chris Holley yw'r aelod cyntaf o'r bwrdd i siarad yn agored ynglŷn â gwaith y corff.

£21m

Bu'r Gronfa yn wreiddiol yn gorff hyd-braich, ond penderfynodd Llywodraeth Cymru gymryd rheolaeth lwyr y llynedd yn sgil dau adroddiad mewnol.

Gwerthwyd 16 safle am gyfanswm o £21m yn 2012 i gwmni yn Guernsey o'r enw South Wales Land Developments; dywed y cwmni iddyn nhw dalu mwy na'r pris arferol.

Yn lle cynnal proses tendro agored, cysylltwyd ag 18 asiant a datblygwr, ac fe werthwyd y safleoedd fel un yn hytrach nag ar wahân.

Dywedodd Mr Colley, cyn-arweinydd Cyngor Abertawe: "Dwi'n teimlo rhyddhad gan 'mod i'n gwybod nad ydyn ni wedi gwneud dim o'i le.

"Ry' ni wedi dilyn y canllawiau, y rheolau, ry' ni wedi gwneud popeth yn unol â'r hyn y dylai unrhyw gorff ei wneud, ac mae'n codi braw arna' i fod pobol sy' wedi gwirfoddoli i geisio helpu adnewyddu Cymru wedyn yn wynebu'r fath yma o beth."

Roedd y tir ar werth yn cynnwys tir fferm yng Ngwynedd, safle diwydiannol yng Nghwm Cynon a rhan o barc busnes yng Nghasnewydd.

120 erw

120 erw o dir fferm ger Llysfaen ar gyrion Caerdydd oedd y mwyaf gwerthfawr. Bu'r tir yn eiddo cyhoeddus am ddegawdau.

Gwerthwyd y tir yna am £15,000 yr erw, ond pedwar mis yn ddiweddarach cafodd y tir ei gynnwys yng nghynllun adeiladu tai Cyngor Caerdydd. Golyga hyn fod posibilrwydd y byddai gwerth y tir yn cynyddu ddegau o filiynau o bunnoedd.

Mae mecanwaith yn bodoli i alluogi'r trethdalwr i rannu unrhyw elw, ond dyw'r ffigwr yna ddim wedi'i gyhoeddi.

Pan ofynnwyd i Mr Holley pam na ohiriwyd y gwerthiant, dywedodd fod gormod o ansicrwydd yn y broses gynllunio i fod yn sicr beth fyddai'n digwydd.

"Digwyddodd hyn ddim dros nos," dywedodd. "I'r gwrthwyneb, roedd hi'n broses hir yn cynnwys, os ca' i ddweud, cryn dipyn o waith cyfreithiol.

"Gaf i ddweud hyn, ynglŷn â'r unig beth dwi'n ei wybod am gynllunio? Dyma, siwr o fod, y peth mwya' anodd i ddarogan y gallwch chi ddychmygu. Mae'n anodd iawn i ddyfalu pa benderfyniadau y bydd swyddogion cynllunio yn eu gwneud.

"Digon rhwydd yw eistedd 'nôl a dweud 'mae'n rhaid bod hyn oll werth miliynau o bunnoedd' ond nid dyna realiti'r byd datblygu."

Canol trefi

Pwrpas sefydlu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio oedd datblygu canol trefi gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru ac arian Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Holley ei fod e bellach yn poeni na fyddai rhai cymunedau'n cael eu hadnewyddu gan fod y cynllun wedi dod i ben.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio ar y cyd â'r Gronfa i ddiogelu'r gwaith adnewyddu arfaethedig sydd ar ôl.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.