Yr Annibynwyr yn ymddiheuro

beddi Rhyfel Byd Cyntaf

Mewn Cyfarfod Blynyddol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi ymddiheuro am y rhan a chwaraewyd gan weinidogion annibynnol yn ymdrech ymrestru y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mewn cynnig wedi'i gyflwyno gan Y Parch D. Alun Jones a'i eilio gan Y Parch Guto Prys ap Gwynfor, fe wnaeth yr undeb yn ymddiheuro am ymdrech gweinidogion annibynnol wrth annog bechgyn ifanc o bob cwr o Gymru i ymuno a'r fyddin.

Roedd gweinidogion sawl enwad Anghydffurfiol, nid yr Annibynwyr yn unig, yn defnyddio'r pulpud i ledeanu neges ryfelgar.

Roedd y gweinidog Methodistaidd Calfinaidd, John Williams o Frynsiencyn, yn enghraifft o un fu'n frwd ei bregeth o blaid y Rhyfel Byd Cyntaf, gan annog bechgyn ifanc ar draws Cymru i fynd i ryfel.

Roedd y Parch Williams yn pregethu mewn gwisg filwrol lawn gan ddatgan bod ymuno â'r fyddin yn rhan o ddyletswydd y dynion fel Cristnogion a Chymry.

Yn ôl y cynnig gafodd ei drafod yn y Cyfarfod Blynyddol, mae'r Undeb yn cywilyddio wrth gofio geiriau a gweithredoedd rhai o weinidogion annibynnol y cyfnod, a oedd ymysg cefnogwyr mwyaf brwd y rhyfel a'r ymgyrch recriwtio.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd negeseuon megis "gwell angau na gwarth" i'w clywed yn atseinio o sawl pulpud a festri ar draws y wlad.

A'r cynnig ymlaen i ymddiheuro o waelod calon am unrhyw wyrdroad o neges Iesu a roddodd danwydd ffres ar goelcerth y rhyfel.

Fel arwydd o'i edifeirwch mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi ymroi i gofio'r rheiny a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ynghyd â gweithio dros heddwch yn ystod cyfnod cofio Rhyfel 1914-1918.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau ar ol y cyfarfod, dywedodd llefarydd: "Ymddiheurwn o waelod calon am bob gwyrdroad o neges Iesu wnaeth osod tanwydd ffres ar goelcerth y Rhyfel."

Ychwanegodd eu bod yn mynegi edmygedd o'r heddychwyr "gafodd eu gwawdio a'u carcharu am wrthod mynd i ryfel".