Tân 'wedi ei gynnau yn fwriadol'

Porthcawl Image copyright Lloydwilliamsphotography
Image caption Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam

Mae swyddogion sy'n ymchwilio yn dilyn tân sylweddol ym Mhorthcawl ddydd Mercher wedi dweud bod y tân - yn fwy na thebyg - wedi ei gynnau'n fwriadol.

Mae criwiau o'r Gwasanaeth Tân ac aelodau o'r heddlu yn parhau i ymchwilio.

Ar un adeg roedd tua dwy erw o laswellt ac eithin yn wenfflam ar y comin gyferbyn â'r rhodfa.

Mae pum injan dân o Borthcawl, Pen-y-bont, Y Bont-faen, Pen-coed a Phort Talbot wedi bod yno.

Cafodd dau dancer dŵr a dau gerbyd 4x4 eu galw i gynorthwyo.

Image copyright South Wales Fire and Rescue
Image caption Llun o'r awyr
Image copyright Peter Morgan
Image caption Mae pum injan dân wedi bod yno

Straeon perthnasol