Y Dysgwyr: Ble maen nhw nawr?

Llongyfarchiadau gwresog i Hannah Roberts o Frynmawr am ennill tlws Dysgwr y Flwyddyn 2016.

Cafodd y wobr ei chyflwyno gyntaf yn 1990. Beth tybed yw hanes rhai o'r enillwyr eraill dros y blynyddoedd?

Image caption John Gillibrand

Enillydd cyntaf

1990 oedd y tro cyntaf i dlws Dysgwr y Flwyddyn gael ei gyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol, er bod yna gystadleuaeth cyn hynny. Y Parchedig John Gillibrand gafodd ei wobrwyo ym mhrifwyl Cwm Rhymni:

"Penderfynais ddysgu Cymraeg ddiwedd yr 1980au ar gais Esgob Bangor, fel rhan o hyfforddiant at fod yn offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru. Wrth i mi fynd ymlaen gyda'r dysgu, deallais fwy am bwysigrwydd yr iaith.

"Y peth mwyaf pwysig yw gwrando ar bobl eraill yn siarad Cymraeg, ar y stryd, yn y siopau, ac ar y teledu a'r radio.

"Roedd ennill teitl Dysgwr y Flwyddyn yn fythgofiadwy. Aeth â fi i mewn i fyd newydd fel petai. Y tro cyntaf i Gillian fy ngwraig, fy ngweld i oedd ar y teledu yn 1990, ar raglen Dysgwr y Flwyddyn, a ninnau heb gyfarfod tan 1991.

Cefnogaeth

"Rydym yn byw erbyn hyn ym mhlwyf Llangeler a Phenboyr, rhwng Castell Newydd Emlyn a Llandysul ond rwyf yn dod yn enedigol o Eccles, Manceinion. Mae'r Gymraeg yn hanfodol i fy ngwaith i fel offeiriad, i alluogi pobl i siarad am bobl o dragwyddol bwys yn eu hiaith gyntaf. Mae canran sylweddol o drigolion plwyfi yr ardal hon yn siarad Cymraeg, felly mae'n iaith gymdeithasu pob dydd yn y fan hyn.

"Mae fy ngwraig yn dysgu'r Gymraeg, ac mae Peter ein mab, yn gadael Ysgol Bro Myrddin eleni wedi derbyn ei addysg bron yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg.

"Mae 'na gynifer o bobl wedi bod mor gefnogol, rwyf wrth fy modd i gael y cyfle yma i ddweud diolch yn fawr, a hynny o waelod calon."

Image copyright Paul Elliott
Image caption Paul Elliott o Gaerdydd - enillydd Dysgwr y Flwyddyn 1997 (Y Bala)

Hiraeth

Roedd profiad Paul Elliott, Dysgwr y Flwyddyn yn y Bala yn 1997 yn dra gwahanol. Er iddo gael ei fagu yng Nghymru fe gafodd Paul yr awch i ddysgu'r iaith ar ôl croesi'r ffin:

"Ar ôl graddio ces i swydd yn Birmingham (gyda chwmni 'Cadburys') a thrwy bod yn alltud dechreuais i edrych nôl ar Gymru trwy sbectol newydd, gyda hiraeth 'sbo. Felly prynais gwrs hunan-ddysgu gyda llyfr a thapiau, wedyn un arall, wedyn cwrs dosbarth nos ac yn y diwedd penderfynais i chwilio am swydd nôl yng Nghymru. Ac fe laniais i yng Nghaerdydd, a dyma fi ers hynny.

Defnydd cyson

"Ers hynny dw i'n byw yng Nghaerdydd ac wedi priodi Sarah, sydd yn dysgu Cymraeg hefyd. O ran gwaith dw i wedi symud allan o'r byd banciau i fyd y cyfryngau. Fel pob sgìl arall mae fy Nghymraeg yn mynd yn rhydlyd os nad yw i'n gwneud yr ymdrech i'w defnyddio'n gyson, felly dw i'n falch iawn i ddweud mod i'n gweithio'n ddwyieithog yn fy rôl fel cynhyrchydd y we, ac o bryd i'w gilydd dw i'n dychwelyd nôl i'r dosbarth i loywi fy Nghymraeg.

"Yn 2009 cafodd ein mab, Harry, ei eni ac mae'n edrych ymlaen at gychwyn yn ei ysgol ym mis Medi - ysgol Gymraeg wrth gwrs. Mae e wedi gwneud llawer o ffrindiau hyfryd yn barod yn ei Gylch Meithrin lleol ac felly dyma gylch newydd o ffrindiau a rhieni i ni hefyd - gwych!"

Image copyright Cymdeithas Cymru Ariannin
Image caption Sandra de Pol (gyda Rhisiart Arwel) yn ôl yn y Wladfa'r llynedd i gynnal dosbarthiadau Cymraeg

O La Plata i'r Wladfa

Sandra de Pol oedd Dysgwr y Flwyddyn y tro diwetha' i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Llanelli yn 2000. Sbaeneg yw ei hiaith gyntaf hi:

"Cefais fy ngeni a'm magu mewn dinas o'r enw La Plata, talaith Buenos Aires yn yr Ariannin. Mae fy nheulu i gyd yn dod o'r Eidal yn wreiddiol, mae ochr fy mam yn dod o Basilicata a theulu nhad yn dod o Venetto a Torino. Sbaeneg ydy iaith yr aelwyd, er hynny.

"Penderfynais ddysgu Cymraeg pan gefais wahoddiad gan riant yr ysgol ble o'n i'n gweithio fel athrawes i gymryd rhan mewn prosiect oedd ar fin dechrau, sef Prosiect Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia. Roedd y Swyddfa Gymreig ar y pryd mewn cydweithrediad â'r Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru Ariannin wedi sefydlu'r prosiect a ddechreuodd ym mis Mawrth 1997 ac sy'n ffynnu hyd heddiw. Fy nhiwtor cyntaf, am ddwy flynedd, oedd Hazel Charles Evans a hi yw'r person sydd wedi dylanwadu fwyaf arnaf ers imi ddechrau dysgu Cymraeg.

"Mae dysgu'r iaith wedi gwyrdroi fy mywyd yn gyfan gwbl. Ar ôl y flwyddyn gyntaf o ddysgu'r iaith yn Nhrevelin, Chubut (ym Mhatagonia), Yr Ariannin- roedd y Gymraeg yn iaith y teulu wedyn.

"Gwefreiddiol!"

"Dechreuais ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos ddwywaith yr wythnos. Ar ôl hynny, cefais y fraint i ddod i Gymru i ddilyn cwrs dwys yn Llanbedr Pont Steffan am wyth wythnos, ac ar ôl hynny wedyn, chwech wythnos yng Ngholeg y Drindod.

"O hynny ymlaen roeddwn yn cynorthwyo yn nosbarthiadau nos y Prosiect yn Nhrevelin ac Esquel.

"Roedd ennill y gystadleuaeth yn brofiad gwefreiddiol! Dyna'r gair sy'n disgrifio orau sut o'n i'n teimlo am yr holl sefyllfa. Cystadlu'n Eisteddfod Genedlaethol Llanelli oedd uchafbwynt blwyddyn 2000 heb os."