Ffrwydrad: Ymchwiliad yn dod i ben

Jordan Smith Image copyright Wales News Service
Image caption Dioddefodd Jordan Smith anafiadau difrifol i'w ddwylo yn y ffrwydrad

Mae amodau mechnïaeth dyn 19 oed gafodd ei arestio wedi ffrwydrad mewn cae ger ei gartref yn cael eu codi, ac ni fydd yr heddlu yn ymchwilio ymhellach.

Dioddefodd Jordan Smith anafiadau difrifol i'w ddwylo yn y ffrwydrad ym mhentref Cas-wis.

Roedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o drosedd yn ymwneud â ffrwydron.

Cafodd Mr Smith ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys lle derbyniodd driniaeth am ei anafiadau.

Digwyddodd y ffrwydrad am 11:00 ar 10 Ebrill, gan arwain at gau'r ffordd drwy'r pentref.

Straeon perthnasol